Neidio i'r cynnwys

Canser y geg

Bob blwyddyn, mae tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data canser gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) a System Wybodaeth y Rhwydwaith Canser.

Mae’n nhw’n cael gwybodaeth am nifer yr achosion o’r gwahanol fathau o ganser y geg, y gwahaniaethau rhwng dynion a menywod ac ar draws grwpiau oedran, y safleoedd mwyaf cyffredin, gwahanol gamau yr achosion, y cyfraddau marwolaethau ac at bwy aeth y claf i ddechrau.

Mae’r wybodaeth a gynhyrchir yn helpu i lywio strategaethau atal ac yn galluogi GIG Cymru i gynllunio ac i ddarparu gwasanaethau deintyddol sy’n well wrth fodloni’r anghenion a nodwyd.

Adroddiadau cenedlaethol

Mis Gweithredu Canser y Geg

Caiff Mis Gweithredu Canser y Geg ei gynnal ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi gwybodaeth i gleifion ac i Fyrddau Iechyd sydd yn disgrifio beth ddylen nhw chwilio amdano a beth allwch chi ei wneud i leihau risg i’ch hunain.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: