Neidio i'r cynnwys

Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC)

Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) yn rhaglen waith unigryw ar gyfer Cymru gyfan, ac mae’n dod â holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG ynghyd. Mae’n hyrwyddo ac yn hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol, gan wasanaethu fel canolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth, cyfnewid dealltwriaeth, cydweithio a rhwydweithio ledled y DU, Ewrop a’r byd.

Nod yr IHCC yw cael yr enillion gorau posibl i bobl Cymru a thu hwnt, gan hyrwyddo diwylliant o ddinasyddiaeth fyd-eang a chefnogi system iechyd sy’n gyfrifol yn fyd-eang, yn fwy cyfartal, yn wydn, yn gynaliadwy a’n ffyniannus.

Mae’r IHCC yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Pholisi a Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Maen nhw’n rhannu ac yn ymhelaethu ar ddysg, manteision a chyfleoedd rhyngwladol. Maent wedi llwyddo i sefydlu rhwydwaith cryf o randdeiliaid allweddol o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymru ac Affrica, cyrff anllywodraethol, a phartneriaid a rhwydweithiau yn y DU, yn Ewrop ac yn byd-eang.

Mae’r IHCC wedi cyhoeddi adroddiadau cynnydd sy’n tynnu sylw at gyflawniadau GIG Cymru wrth weithio’n rhyngwladol ac wrth weithredu’r Siarter. Maent hefyd yn disgrifio gwaith galluogi IHCC, a sut mae wedi esblygu dros y blynyddoedd mewn perthynas â datblygiadau yn fyd-eang, yn y DU, yn genedlaethol ac yn lleol.

Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter)

Mae’r IHCC wedi hwyluso datblygiad y Siarter – sef ymrwymiadau unigryw gan y GIG yn ei gyfanrwydd – gyda’r nod o sicrhau bod egwyddorion a gwerthoedd y GIG yn cael eu hadlewyrchu ym mhob gweithgaredd iechyd rhyngwladol. Mae’n cryfhau gwaith dwyochrog Cymru i adeiladu arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i ddatblygu partneriaethau cynaliadwy yn seiliedig ar degwch, ac i fynd ar drywydd buddion diriaethol i’r ddwy ochr a bywydau iach ffyniannus i bawb o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru. Mae’r Siarter yn seiliedig ar hanes cyflawniad a dysg Cymru yn y maes hwn, ac mae’n amlinellu pedair sylfaen partneriaethau iechyd rhyngwladol llwyddiannus: cyfrifoldebau sefydliadol; gweithio partneriaeth dwyochrog; arfer da; a llywodraethu cadarn.

Darllenwch y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru.

Mae’r IHCC wedi sefydlu Grŵp Gweithgareddau Iechyd Rhyngwladol GIG Cymru i fod yn blatfform ar draws GIG Cymru ar gyfer allgymorth a chyfranogiad sy’n gysylltiedig â gwaith iechyd rhyngwladol a byd-eang; i hysbysu, rhannu, trafod, cefnogi a datblygu synergeddau a ffrydiau gwaith ar y cyd. Mae’n gweithio i greu rhwydwaith o gynrychiolwyr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau egnïol a llawn cymhelliant sy’n hyrwyddo ymgysylltu iechyd rhyngwladol, yn cefnogi sefydliadau cynaliadwy ‘sy’n gyfrifol yn fyd-eang’, ac yn gyrru diwylliant o ‘ddinasyddiaeth fyd-eang’. Nod terfynol y Grŵp yw helpu i sicrhau gwell iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd o fewn Cymru a thu hwnt.

Pecyn cymorth gweithredu’r Siarter

Datblygwyd y pecyn cymorth hwn o’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd, ac mae’n cyd-gasglu enghreifftiau o arfer gorau a darparu fframwaith llywodraethu i gefnogi gweithgarwch iechyd rhyngwladol. Mae hon yn ‘ddogfen fyw’, a bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddiweddaru’n barhaus i gynorthwyo llofnodwyr y Siarter i weithredu ei egwyddorion.

Cafodd y pecyn cymorth, a grëwyd yn wreiddiol yn 2019, ei adnewyddu yn 2024 gyda deunyddiau ategol newydd fel: 

  • Canllawiau 
  • Astudiaethau achos
  • Dogfennau gweithredu
  • Adnoddau defnyddiol

Mynediad at becyn cymorth gweithredu’r Siarter.

Fforwm iechyd rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r Fforwm Iechyd Rhyngwladol a gynhelir bob dwy flynedd yn un o weithgareddau allweddol Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n hwylusydd Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r fforwm yn blatfform sydd yn cysylltu gweithwyr iechyd proffesiynol, addysgwyr a chymunedau yng Nghymru â gwybodaeth am iechyd rhyngwladol, rhwydweithiau a phartneriaethau. Mae’n ehangu capasiti trwy rannu arferion gorau, adnoddau a chyfleoedd a all gryfhau sgiliau a systemau ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn cefnogi rhannu dysg, tynnu sylw at gyfraniadau Cymru at iechyd byd-eang ac yn atgyfnerthu rôl Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant i bawb.

Os hoffech ymuno â Rhwydwaith Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, anfonwch neges i [email protected].