Canllawiau technegol marwolaethau trwy hunanladdiad tybiedig 2024 i 2025
Mae’r canllawiau hyn yn gysylltiedig â:
Adroddiad blynyddol marwolaethau trwy hunanladdiad tybiedig 2024 i 2025
Geirfa
Ffactorau cysylltiedig
Mae’r ffactorau hyn yn deillio o ‘ffactorau risg hanesyddol’ fel y’u hadroddwyd gan yr Heddlu. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
Covid 19 – Uniongyrchol; Covid 19 – Anuniongyrchol; Covid Hir; Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod; Wedi’i Effeithio gan Hunanladdiad; Camddefnyddio/Cam-drin Alcohol; Yn Disgwyl Canlyniad Cyfiawnder Troseddol; Profedigaeth o ganlyniad i Hunanladdiad; Profedigaeth; Bwlio (yn cynnwys Seiberfwlio); Cyfrifoldebau/Problemau sy’n gysylltiedig â bod yn ofalwr; Problemau’n ymwneud â Chyswllt â Phlentyn/Tynnu plentyn oddi wrth riant; Poen Deintyddol/trafferth gweld deintydd; Cam-drin Domestig; Camddefnyddio/Cam-drin Cyffuriau; Straen Addysgol/Arholiadau; Problemau Teuluol; Problemau Ariannol
Problemau Clyw/Tinitws; Pryderon am Dai/Lloches; Anawsterau Dysgu; Salwch hirdymor
Salwch Iechyd Meddwl; Hanes Milwrol; Ddim yn Cymryd Meddyginiaeth; Arall (maes testun rhydd); Problemau Meddygol Eraill; Poen – Emosiynol; Poen – Corfforol; Pwysau gan Gyfoedion (yn cynnwys yn y seiberofod); Perimenopos/Menopos; Anabledd Corfforol; Pryderon Ôl-enedigol/Amenedigol; Euogfarnau Blaenorol wedi’u nodi; Wedi’i gadw yn y ddalfa o’r blaen o dan Adran 136 Deddf Iechyd Meddwl; Problem Gamblo; Problemau mewn Perthynas (h.y. Partner/Ffrindiau); Digwyddiad Bywyd Hynod Emosiynol/Llawn straen
Pryder ynghylch Cyfeiriadedd Rhywiol; Ynysigrwydd Cymdeithasol; Camddefnyddio/Cam-drin Sylweddau; Problemau yn y Gwaith
Defnyddir yr wybodaeth a gesglir ar ffurflen adrodd yr Heddlu yn y categorïau uchod, ynghyd â gwybodaeth bellach sydd ar gael yn yr adran testun rhydd, i lenwi’r categorïau ‘ffactor cysylltiedig’ Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSSS) canlynol. Gellir defnyddio’r wybodaeth i lenwi categorïau RTSSS eraill, os yw’n berthnasol.
Adroddodd holl ohebwyr yr heddlu y ffactorau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth eu bod yn bresennol. Mae’n bosibl bod y wybodaeth hon wedi’i chael o gofnodion iechyd, cofnodion yr heddlu neu o ddatganiad teuluol.
Mae categorïau ‘ffactorau cysylltiedig’ RTSSS yn cynnwys:
Yn gysylltiedig â COVID : COVID-19 ar hyn o bryd / Hanes o haint COVID-19 / COVID Hir
Amgylchiadau Personol : Problemau ariannol / Problemau yn y gwaith / Problemau yn ymwneud â thai/lloches / Ynysigrwydd cymdeithasol / Mewn profedigaeth / Bwlio (yn cynnwys seiberfwlio) / Cam-drin/gwahaniaethu hiliol / Pryder ynghylch cyfeiriadedd rhywiol / Straen addysgol/arholiadau / Methu cael mynediad at gymorth / Pwysau gan gyfoedion (yn cynnwys yn y seiberofod) / Problemau Gamblo / Statws cyn-filwr / Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Amgylchiadau domestig : Wedi gadael gofal / Cyfrifoldebau/problemau sy’n gysylltiedig â bod yn ofalwr / Cam-drin domestig – dioddefwr / Cam-drin domestig -cyflawnwr / Cam-drin domestig – tyst / Cam-drin rhywiol – cyflawnwr / Cam-drin rhywiol – dioddefwr / Cam-drin rhywiol yn y seiberofod – dioddefwr
Wedi’i effeithio gan hunanladdiad: Wedi’i effeithio gan hunanladdiad neu wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad / Profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad – teulu / Profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad – ffrind/arall
Defnyddio sylweddau: Defnyddio/camddefnyddio cyffuriau / Defnyddio/camddefnyddio alcohol / Defnyddio/camddefnyddio cyffuriau ac alcohol / Problem camddefnyddio cyffuriau/alcohol amhenodol
Problemau emosiynol: Problemau mewn perthynas / Problemau teuluol / Problemau’n ymwneud â chymdogion / Digwyddiad bywyd hynod emosiynol/llawn straen / Profiad o drawma
Meddygol ac iechyd: Cyflwr iechyd meddwl (Iselder; Gorbryder; Dementia; Sgitsoffrenia/anhwylder rhithdybiol arall; Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD); anhwylder deubegynol; anhwylder personoliaeth; arall; heb ei nodi) / Salwch hirdymor / Poen cronig / Anabledd dysgu / Anableddau corfforol / Meddyginiaeth ar bresgripsiwn / Dilyn canllawiau wrth gymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn / Pryderon ôl-enedigol/amenedigol / Perimenopos/menopos / Niwrowahaniaeth (e.e. Awtistiaeth, ADHD) / Problemau meddygol eraill / Hunan-niweidio yn y gorffennol
D.S. gellir cyfuno rhai o’r categorïau uchod at ddibenion adrodd.
Adroddodd holl ohebwyr yr heddlu y ffactorau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth eu bod yn bresennol. Mae’n bosibl bod y wybodaeth hon wedi’i chael o gofnodion iechyd, cofnodion yr heddlu neu o ddatganiad teuluol.
Cyfwng hyder
Mae cyfyngau hyder yn arwyddion o’r amrywiad naturiol y byddai’n ddisgwyliedig o amgylch cyfradd a dylid eu hystyried wrth asesu neu ddehongli cyfradd. Mae maint y cyfwng hyder yn ddibynnol ar nifer y digwyddiadau sy’n digwydd a maint y boblogaeth y daeth y digwyddiadau ohoni. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sy’n seiliedig ar nifer fach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o gael cyfyngau hyder ehangach. I’r gwrthwyneb, mae cyfraddau sy’n seiliedig ar boblogaethau mawr yn debygol o gael cyfyngau hyder culach. Mae cyfwng hyder o 95% yn golygu ein bod yn 95% hyderus bod gwir werth yr amcangyfrif yn gorwedd o fewn yr ystod.
Cyfrif
Y cyfrif yw nifer yr hunanladdiadau tybiedig a ddigwyddodd dros gyfnod penodol o amser.
Cyfradd fras
Cyfradd fras yw nifer yr hunanladdiadau tybiedig sy’n digwydd mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, wedi’i fynegi fel nifer y marwolaethau fesul 100,000 o’r boblogaeth. Defnyddiwyd y cyfraddau hyn gan eu bod yn fwyaf addas i lywio gweithredu, sef un o nodau’r RTSSS.
Categorïau Hysbys i’r Heddlu (yn y 6 mis blaenorol):
- Wedi’i (h)amau/ei (chael) gael yn euog o drosedd – yn cynnwys sefyllfaoedd lle’r oedd person yn cael ei amau o drosedd neu droseddau; efallai eu bod wedi cael eu heuogfarnu.
- Person sy’n agored i niwed – Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle nad yw person yn gallu gofalu am neu amddiffyn ei hun neu eraill rhag niwed neu ecsbloetio.
- Dioddefwr trosedd – yn cynnwys sefyllfaoedd lle’r oedd person yn ddioddefwr trosedd.
- Tyst – yn cynnwys sefyllfaoedd lle’r oedd person yn dyst i drosedd.
- Arall – Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd nad ydynt wedi’u dal gan gategorïau presennol, er enghraifft presenoldeb yr heddlu mewn digwyddiad fel anghydfodau. Nid yw’n cynnwys a oedd y person yn ddeiliad trwydded arfau tanio.
Cymedr
Nifer cyfartalog y marwolaethau.
Cyflwr iechyd meddwl
Mae hwn yn derm eang sy’n cwmpasu cyflyrau sy’n effeithio ar emosiynau, meddwl ac ymddygiad, ac sy’n ymyrryd yn sylweddol ar ein bywyd. Gall cyflyrau iechyd meddwl effeithio’n sylweddol ar fywyd bob dydd, gan gynnwys ein gallu i weithio, gofalu amdanom ein hunain a’n teulu, a’n gallu i gysylltu a rhyngweithio ag eraill. Mae hwn yn derm a ddefnyddir i gwmpasu sawl cyflwr (e.e. iselder, anhwylder straen ôl-drawmatig, sgitsoffrenia) gyda gwahanol symptomau ac effeithiau am wahanol gyfnodau o amser, ar gyfer pob person. Gall cyflyrau iechyd meddwl amrywio o salwch ysgafn i salwch difrifol a pharhaol. Mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn fwy tebygol o brofi lefelau is o les corfforol a meddyliol, ond nid yw hyn bob amser neu o reidrwydd yn wir. Mae rhai cyflyrau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta a sgitsoffrenia yn gysylltiedig â risg uwch o farwolaethau (Dealltwriaeth: strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio).
Mae’n bosibl bod y ffynonellau gwybodaeth ar gyfer ‘cyflwr iechyd meddwl’ wedi bod ychydig yn wahanol ym mhob Heddlu. Seiliodd holl ohebwyr yr heddlu y wybodaeth a adroddwyd i RTSSS ar dystiolaeth bod gan y person gyflwr iechyd meddwl wedi’i ddiagnosio. Mae’n bosibl bod y wybodaeth hon wedi’i chael o gofnodion iechyd, cofnodion yr heddlu neu o ddatganiad teuluol.
Categorïau dull marwolaeth
Mae categorïau dull marwolaeth yn adlewyrchu categorïau a ddefnyddir yng Ngwyliadwriaeth sydd bron mewn Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (nRTSSS) ar gyfer Lloegr, sy’n seiliedig ar Gategorïau SYG. Fe’u cyflwynir fel a ganlyn:
- Crogi, llindagu a mygu
- Boddi
- Cwympo a thorri asgwrn
- Gwenwyno
- Neidio neu orwedd o flaen gwrthrych sy’n symud
- Gwrthrych miniog
- Arall neu anhysbys (*Mae eraill yn cynnwys y dulliau marwolaeth canlynol: dryll / arf tanio; hunan-niweidio gan ddeunydd ffrwydrol; hunan-niweidio gan fwg, tân a fflamau; hunan-niweidio gan stêm, anweddau poeth a gwrthrychau poeth; hunan-niweidio gan wrthrych heb fin; hunan-niweidio trwy ddamwain cerbyd modur; hunan-niweidio trwy drydanu; dulliau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys mewn unrhyw gategori arall).
Cyfradd
Mae’r cyfraddau yn yr adroddiad hwn yn gyfraddau bras (gweler uchod).
Rhanbarthau
Diffinnir tri rhanbarth Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru isod ac maent yn gyson â’r fforymau atal hunanladdiad rhanbarthol yng Nghymru.
Gogledd Cymru – Bwrdd Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Awdurdodau Lleol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam.
Canolbarth a Gorllewin Cymru – Byrddau Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Awdurdodau Lleol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys.
De-ddwyrain Cymru – Byrddau Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Awdurdodau Lleol: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Bro Morgannwg.
Hunan-niweidio
Mae hunan-niweidio yn cyfeirio at weithred fwriadol o hunan-wenwyno neu hunan-niweidio, waeth beth yw cymhelliant neu bwrpas ymddangosiadol y weithred. Mae hunan-niweidio yn cynnwys ymdrechion hunanladdiad yn ogystal â gweithredoedd sy’n cynnwys ychydig neu ddim bwriad hunanladdol (Dealltwriaeth: strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio).
Mae’n bosibl bod y ffynonellau gwybodaeth ar gyfer ‘hanes hunan-niweidio blaenorol’ wedi bod ychydig yn wahanol ym mhob heddlu. Seiliodd holl ohebwyr yr heddlu y wybodaeth a adroddwyd i RTSSS ar dystiolaeth bod gan y person hanes o hunan-niweidio. Mae’n bosibl bod y wybodaeth hon wedi’i chael o gofnodion iechyd, cofnodion yr heddlu neu o ddatganiad teuluol.
Gwyriad safonol
Mesur o faint o amrywiad sydd mewn set o werthoedd mewn perthynas â’r cymedr.
Arwyddocâd ystadegol
Pennwyd arwyddocâd ystadegol wrth gymharu amcangyfrifon ardaloedd lleol â gwerth Cymru gyfan gan ddefnyddio cyfyngau hyder o 95%. Mae’r amcangyfrif ardal leol yn ystadegol sylweddol wahanol os yw ei gyfwng hyder y tu allan i werth Cymru. Os yw’r cyfwng hyder yn gorgyffwrdd â gwerth Cymru, nid yw’r gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol.
Wrth gymharu amcangyfrifon ardaloedd lleol ag amcangyfrif ardal leol arall, grwpiau oedran yn ôl rhyw, a phumed amddifadedd, mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd rhwng gwerthoedd yn dangos bod y gwahaniaeth yn annhebygol o fod wedi deillio o amrywiad ar hap (h.y. ystadegol arwyddocaol). Fodd bynnag, pan fydd y cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd, ni allwn benderfynu a oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol neu beidio trwy gymharu cyfyngau hyder yn unig, felly mae angen prawf mwy manwl gywir. Edrychodd y gymhariaeth fesul pâr ar y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau a’r cyfyngau hyder 95% o’r gwahaniaeth. Pan fydd cyfwng hyder y gwahaniaeth cyfradd yn uwch na sero, ystyrir bod y ddwy gyfradd yn sylweddol wahanol gyda hyder 95%.
Camddefnyddio sylweddau
Mae camddefnyddio sylweddau yn cael ei ddiffinio’n ffurfiol fel y defnydd parhaus o unrhyw sylwedd seicoweithredol sy’n effeithio’n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, sefyllfa gymdeithasol a chyfrifoldebau person. Mae’r mathau mwyaf difrifol o gamddefnyddio sylweddau fel arfer yn cael eu trin gan wasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol arbenigol. Mae camddefnyddio sylweddau yn cynnwys camddefnyddio ystod o sylweddau seicoweithredol gan gynnwys alcohol, cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau cyfreithlon, gan gynnwys meddyginiaethau ar bresgripsiwn a gymerir mewn ffordd na argymhellir gan feddyg teulu neu’r gwneuthurwr (Dealltwriaeth: strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio).
Hunanladdiad tybiedig
Pan amheuir bod person wedi cymryd ei fywyd ei hun yn fwriadol (Dealltwriaeth: strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio).
Mae marwolaeth trwy hunanladdiad tybiedig fel yr adroddwyd yn y rhan fwyaf o achosion yma wedi cael ei phenderfynu gan yr Heddlu. Mae’r Coleg Plismona wedi amlinellu’r dosbarthiad o hunanladdiad tybiedig ac yn nodi:
“.. Yn aml, mae gofyn am ddyfarniad cychwynnol ar a yw achos yn hunanladdiad o bosibl. … Dylai swyddogion ddefnyddio eu barn broffesiynol – yn seiliedig ar yr holl ffeithiau hysbys – ac wedi’i chefnogi gan y model penderfyniadau cenedlaethol (NDM), i gofnodi a yw marwolaeth yn hunanladdiad tybiedig. Bydd cyfrifon tystion, deunydd teledu cylch cyfyng, presenoldeb nodyn hunanladdiad a thystiolaeth arall sydd ar gael yn helpu yn y penderfyniad hwn. Gellir defnyddio’r ‘meini prawf Ovenstone’ (Ovenstone, 1973) fel offeryn i gefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch a oedd marwolaeth yn fwy tebygol o fod wedi bod yn hunanladdiad na pheidio. Rhaid adolygu unrhyw ddyfarniad a wneir yn y lle cyntaf wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.” (Ymateb i hunanladdiad a phrofedigaeth | Y Coleg Plismona)
Sail gyfreithiol
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data yw Paragraff 3(b) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 “datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy’n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o’r fath” a pharagraff 3(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 sy’n nodi fel un o’i swyddogaethau: ‘gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a’u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid.’
Mae gan RTSSS Gytundebau Datgelu Data ar waith gyda phedwar Heddlu Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain i dderbyn gwybodaeth drwy dempled casglu data Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP)/Cyngor Pennaeth yr Heddlu Cenedlaethol (NPCC) gydag ychwanegu meysydd ar gyfer enw a dyddiad geni. Er nad yw Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn berthnasol i’r data a gesglir ar gyfer RTSSS, cynhelir cyfnewid data personol o fewn fframwaith cyfreithiol Deddf Diogelu Data 2018 ac yn unol â dyletswydd gyfrinachedd y gyfraith gyffredin. Mae gennym gymorth amodol gan y Grŵp Cynghori Cyfrinachedd i brosesu gwybodaeth gyfrinachol i gleifion heb ganiatâd (Cyf: 22/CAG/0163).
Ffynonellau data
Hysbysiad o farwolaethau trwy hunanladdiad tybiedig: Cafwyd data yn yr adroddiad hwn o gronfa ddata RTSSS. Darperir gwybodaeth i RTSSS yn bennaf gan bedwar heddlu Cymru, gan ddefnyddio templed a ddatblygwyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) ar gyfer Portffolio Atal Hunanladdiad Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC). Mae’r hunanladdiadau tybiedig a nodwyd yn yr adroddiad hwn wedi’u penderfynu i fod yn hunanladdiadau tybiedig gan yr Heddlu (gweler ‘hunanladdiad tybiedig’ yn yr eirfa).
Yn ogystal â data yn y templed BTP/NPCC, rydym yn cael enw a dyddiad geni gan bedwar heddlu Cymru fel ein bod yn gallu cysylltu pob cofnod â ffynonellau data eraill i groeswirio gwybodaeth ac ychwanegu gwybodaeth ychwanegol. Mae BTP hefyd yn hysbysu hunanladdiadau tybiedig sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Mae ffynonellau eraill ar gyfer hysbysiadau cychwynnol yn cynnwys adroddiadau ad-hoc gan wasanaethau y tu allan i Gymru a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.
Croeswirio a gwybodaeth ychwanegol: Defnyddir nifer o ffynonellau data i groeswirio’r wybodaeth a dderbyniwyd yn yr hysbysiad cychwynnol, ac i gael rhagor o wybodaeth lle gallai fod bylchau. Mae’r rhain yn cynnwys: Porth Clinigol Cymru, Gwasanaeth Demograffig Cymru, Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Network Rail a Digwyddiadau a Adroddwyd yn Genedlaethol a Gedwir gan Berfformiad a Gwelliant y GIG.
Defnyddiwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2021 (MALlC) fel amcangyfrif o amddifadedd. Dyma fesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n cynnwys wyth parth/math o amddifadedd ar wahân: Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Addysg, Mynediad at Wasanaethau, Tai, Diogelwch Cymunedol a’r Amgylchedd Ffisegol.
Defnyddiwyd yr amcangyfrifon canol blwyddyn SYG (MYE) fel yr enwadur wrth gyfrifo cyfraddau. Y SYG yw’r ffynhonnell swyddogol o feintiau poblogaeth, a gynhyrchir bob blwyddyn, sy’n cwmpasu poblogaethau awdurdodau lleol, siroedd, rhanbarthau a gwledydd y DU yn ôl oedran a rhyw. Roedd cyfraddau enwadur ar gyfer 2024/25 yn seiliedig ar ardaloedd cynnyrch ehangach is MYE, 2022. Ar gyfer awdurdodau lleol, roedd y cyfraddau yn seiliedig ar awdurdod lleol MYE 2022, 2023, 2024.
Defnyddiwyd data Cyfrifiad SYG 2011 ar gyfer amcangyfrif cyfraddau cyflogaeth.
Roedd data lleoliad yn deillio o godau post, What Three Words a data cyfeirnod grid a ddarparwyd gan y cyflenwyr data, ar Rid Cenedlaethol Prydain. Os nad oedd y rhain ar gael, darparwyd enw’r bwrdd iechyd neu’r rhanbarth preswyl, os oedd yn hysbys.
Ansawdd data
Mae ansawdd data wedi’i ystyried gan ddefnyddio dimensiynau Cymdeithas Rheoli Data y DU, h.y. cyflawnrwydd, cywirdeb, amseroldeb, unigrywiaeth, cysondeb a dilysrwydd.
Dylid nodi bod grŵp ethnig a hunaniaeth rhywedd yn ddangosyddion pwysig, ond nid yw ansawdd data yr eitemau data hyn yn glir, felly nid ydym yn gallu adrodd arnynt. Gweler yr adran ar Gyfyngiadau am esboniad pellach.
Cyflawnrwydd
| Dangosydd yn adroddiad RTSSS | Eitem ddata mewn marwolaethau a adroddwyd gan yr Heddlu | Eitem ddata mewn marwolaethau a adroddwyd gan ffynhonnell nad yw’n ymwneud â’r Heddlu | Cyflawnrwydd |
|
Mis marwolaeth |
Dyddiad marwolaeth |
Roedd dyddiad y farwolaeth neu fis y farwolaeth ar gael |
100% cyflawn, <5 achos gydag anghysondeb bach o ran dyddiadau (h.y. diwrnod marwolaeth) rhwng y ffynonellau gwahanol. |
|
Rhanbarth a bwrdd iechyd preswyl |
Cod post preswyl |
Roedd y rhanbarth a’r bwrdd iechyd preswyl ar gael |
100% cyflawn mewn marwolaethau a adroddwyd ar dempled BTP / NPCC. Ar gyfer marwolaethau a hysbyswyd gan ffynonellau eraill, nid oedd cod post ar gael ond roedd y rhanbarth a’r bwrdd preswyl iechyd ar gael ar gyfer pob marwolaeth. |
|
Amddifadedd ardal (yn seiliedig ar Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) |
Dim maes data – a gafwyd o god post preswyl |
Ddim ar gael oni bai bod cod post wedi’i ddarparu |
98% cyflawn. |
|
Ystod oedran |
Oedran |
Roedd oedran neu ystod oedran ar gael |
100% cyflawn. |
|
Rhyw (wedi’i bennu adeg geni) |
Rhywedd (yn cynnwys gwybodaeth am ryw a rhywedd) |
Roedd data ar ryw ar gael |
100% cyflawn. Dim ond eitemau data gwrywaidd a benywaidd a ddefnyddir o’r categori rhywedd NPCC/BTP ac y cyfeirir atynt fel rhyw. Ar gyfer eitemau data heblaw gwrywaidd/benywaidd, rhyw a bennwyd adeg geni a gafwyd gan Wasanaeth Demograffig Cymru. |
|
Statws cyflogaeth (Di-waith, Cyflogedig/hunangyflogedig, Wedi ymddeol, Myfyriwr/prentis, Arall) |
Statws/galwedigaeth cyflogaeth (yn cynnwys yr opsiynau canlynol: cyn-swyddog heddlu, swyddog heddlu sy’n gwasanaethu, cyn-staff yr heddlu, staff heddlu sy’n gwasanaethu, aelod o luoedd EF sy’n gwasanaethu, staff y GIG, gweithiwr gofal cymdeithasol, sector cyhoeddus arall, sector preifat arall, hunangyflogedig, di-waith, myfyriwr, wedi ymddeol, arall, anhysbys). |
Nid oedd statws cyflogaeth ar gael |
76% cyflawn. Os rhestrwyd galwedigaeth yn hytrach na math o gyflogaeth yn y ffurflen BTP/NPCC, penderfynwyd y statws cyflogaeth o hyn. Holwyd cwestiynau trwy’r maes testun rhydd hefyd. |
|
Ffactorau cysylltiedig |
Ffactor(au) risg hanesyddol |
Roedd gwybodaeth am ffactorau cysylltiedig ar gael ar gyfer rhai marwolaethau |
Dim ond canfyddiadau cadarnhaol a gasglwyd ac a adroddwyd. Felly, gellir tanamcangyfrif lefel anhysbys o gyflawnrwydd. Holwyd cwestiynau trwy’r maes testun rhydd hefyd i boblogi meysydd data yng nghronfa ddata RTSSS. |
|
Yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn y 6 mis blaenorol |
Yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl 6 mis cyn marwolaeth |
Roedd defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ar gael ar gyfer rhai marwolaethau |
75% yn gyflawn yn gyffredinol. Holwyd cwestiynau trwy’r maes testun rhydd hefyd. Adroddwyd gan yr heddlu yn bennaf er bod rhywfaint o wybodaeth o systemau iechyd (gweler yr adran Gyfyngiadau). |
|
Yn hysbys i’r Heddlu yn y 6 mis blaenorol |
Yn hysbys i’r Heddlu yn y 6 mis blaenorol |
Yn hysbys i’r Heddlu ddim ar gael |
98% cyflawn. Holwyd cwestiynau trwy’r maes testun rhydd hefyd. |
|
Dull marwolaeth |
Dull hunanladdiad |
Dull marwolaeth ar gael fel arfer |
98% cyflawn. |
|
Math o leoliad |
Mae hunanladdiad yn golygu math o leoliad |
Math o leoliad sydd ar gael fel arfer |
100% cyflawn |
Cywirdeb
Croeswiriwyd data gyda ffynonellau eraill lle bo’n bosibl. Gwiriwyd ymholiadau ynglŷn â’r data ar ffurflen BTP/NPCC yn uniongyrchol gyda’r Heddlu. Adroddwyd nifer fach o achosion gan ffynonellau heblaw’r Heddlu ac roedd llai o wybodaeth ar gael am y rhain. Hefyd, ni chawsom wybodaeth bersonol adnabyddadwy am yr achosion hyn felly nid oedd croes-wirio nac ychwanegu rhagor o wybodaeth yn bosibl.
Mae gwerthusiad o ddata RTSSS wedi’i gynllunio a fydd yn cymharu hunanladdiadau tybiedig yn erbyn hunanladdiadau a adroddwyd gan y SYG. Bydd hyn yn rhoi arwydd o gywirdeb y system.
Amseroldeb
Derbyniwyd data ar y ffurflen BTP/NPCC gan RTSSS o fewn 10 diwrnod gwaith o’r mis canlynol o fis y farwolaeth. Cyflwynodd un heddlu ffurflen wythnosol. Gallai ychwanegu rhagor o wybodaeth gymryd hyd at sawl wythnos. Ni adroddwyd am nifer fach o farwolaethau yn y ffurflen BTP/NPCC cychwynnol, ond fe’u hychwanegwyd yn ôl-weithredol, gyda ffigurau diwygiedig o’r flwyddyn flaenorol yn cael eu cyhoeddi. Gallai marwolaethau a adroddwyd trwy ffynonellau eraill gymryd un i ddau fis i’w derbyn gan RTSSS.
Mae data ar achosion o hunanladdiadau tybiedig yn fwy amserol nag ystadegau hunanladdiad swyddogol y SYG, felly gall ddarparu arwydd mwy amserol o batrymau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg.
Cysondeb
Mewnbynnwyd pob cofnod gan aelod o dîm craidd RTSSS ac fe’u gwiriwyd am ansawdd gan aelod arall o’r tîm. Os oedd gwerthoedd data yn gwrthdaro â gwerthoedd eraill, gwiriwyd y ffynhonnell ddata a gwnaed ymholiadau os oedd angen. Cynhaliwyd cyfarfod adolygu data misol gan y tîm RTSSS craidd i adolygu unrhyw gofnodion lle’r oedd ymholiadau am y data a nodwyd o’r camau mewnbynnu data neu wirio ansawdd data.
Unigrywiaeth
Byddai cofnodion dyblyg yn cael eu nodi yn ystod y camau mewnbynnu data neu wirio ansawdd.
Dilysrwydd
Croeswiriwyd data gyda ffynonellau eraill lle bo’n bosibl. Mae gan RTSSS isafswm set ddata gyda diffiniadau a rheolau sy’n ymwneud â’r eitemau data a gasglwyd.
Dadansoddi data
Cyfraddau
Mae’r cyfraddau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn yn gyfraddau bras gan eu bod yn fwyaf addas i lywio gweithredu, sef un o nodau’r RTSSS. Cyfradd fras yw nifer yr hunanladdiadau tybiedig sy’n digwydd mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, wedi’i fynegi fel nifer y marwolaethau fesul 100,000 o’r boblogaeth. Ar gyfer y dadansoddiadau hyn, defnyddiodd y cyfraddau enwadur yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn y SYG 2022 o ran ardaloedd cynnyrch ehangach is. Mae hyn oherwydd nad oedd blynyddoedd diweddarach ar gael. Ar gyfer awdurdodau lleol, roedd y boblogaeth a ddefnyddiwyd i ddeillio’r cyfraddau yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn y SYG 2022, 2023, 2024 gan fod y rhain ar gael ar gyfer daearyddiaeth ALl.
Rhanbarth, bwrdd iechyd, rhyw, oedran / rhyw, a chyfraddau amddifadedd yw’r cyfraddau amcangyfrifedig. Cyfrifwyd cyfyngau hyder 95% o amgylch y cyfraddau hyn i roi arwydd o gywirdeb amcangyfrif y gyfradd.
Ar gyfer cymariaethau rhwng:
- Amcangyfrifon rhanbarthol
- Amcangyfrifon Byrddau Iechyd
- Amcangyfrifon awdurdodau lleol
- amcangyfrifon amddifadedd
- Amcangyfrifon rhyw
a’r gyfradd Cymru gyfan, mae’r gyfradd Cymru gyfan yn cael ei thrin fel union gyfeiriad (dim cyfwng hyder). Mae hwn yn ddull a fabwysiadwyd yn eang ar gyfer amcangyfrifon ar lefel genedlaethol, gyda’r gwall ar hap yn cael ei ystyried yn ddibwys ar gyfer poblogaethau mawr. Os yw cyfwng hyder yr amcangyfrif y tu allan i’r gyfradd Cymru gyfan, yna mae’r gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol. Os yw cyfwng hyder yr amcangyfrif yn gorgyffwrdd â chyfradd Cymru gyfan, nid yw’r gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol.
Ar gyfer cymariaethau rhwng dau amcangyfrif megis:
- amcangyfrifon rhanbarthol gydag amcangyfrif rhanbarthol arall
- Amcangyfrifon byrddau iechyd gydag amcangyfrif bwrdd iechyd arall
- Amcangyfrifon awdurdodau lleol gydag amcangyfrif awdurdod lleol arall
- amcangyfrifon amddifadedd gydag amcangyfrif amddifadedd arall
Mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd rhwng gwerthoedd yn dangos bod y gwahaniaeth yn annhebygol o fod wedi deillio o amrywiad ar hap (h.y., ystadegol arwyddocaol). Fodd bynnag, pan fydd y cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd, ni allwn benderfynu a oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol neu beidio trwy gymharu cyfyngau hyder yn unig, felly mae angen prawf mwy manwl gywir. Edrychodd y gymhariaeth fesul pâr ar y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau a’r cyfyngau hyder 95% o’r gwahaniaeth. Pan fydd cyfwng hyder y gwahaniaeth cyfradd yn uwch na sero, ystyrir bod y ddwy gyfradd yn sylweddol wahanol gyda hyder 95%. Er mwyn i’r amcangyfrifon fesul pâr fod yn gadarn, roedd angen isafswm cyfrif o 10, felly ni wnaed hyn ar gyfer cymariaethau rhwng grwpiau oedran.
Felly, lle mae cyfraddau amcangyfrifedig yn cael eu cymharu â’i gilydd, mae gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol naill ai os:
- nad yw cyfyngau hyder y gwerthoedd yn gorgyffwrdd
- yw’r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd, ond nid yw’r cyfwng hyder ar gyfer y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau yn cynnwys sero.
Lle bo’n briodol, amcangyfrifwyd nifer cymedrig (cyfartalog) yr achosion a’r gwyriad safonol. Disgwylir bod y cyfrif o fewn un gwyriad safonol uwchlaw neu islaw’r cymedr dwy ran o dair o’r amser. Mae hyn yn rhoi mesur o a oes cyfrif neu dueddiadau sy’n peri gofid.
Cryfderau
Mae’r ffigurau ar gyfer marwolaethau a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod a nodwyd ac yn darparu arwydd amserol o hunanladdiadau tybiedig. Mae hyn yn cymharu ag ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi yn ôl blwyddyn cofrestru, felly gall y marwolaethau hynny fod wedi bod yn fisoedd neu flynyddoedd ynghynt.
Roedd meysydd data ar gyfer mis marwolaeth, oedran, rhyw, cod post (ar gyfer cwintel amddifadedd), a oedd yn hysbys i’r heddlu yn y 6 mis blaenorol, y dull marwolaeth a’r math o leoliad bron yn 100% cyflawn.
Mae casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn golygu ein bod yn gallu cysylltu’r data â ffynonellau data ychwanegol, naill ai i ychwanegu rhagor o wybodaeth neu i groeswirio data presennol gan wella ansawdd y set ddata.
Cyfyngiadau
Mae’r data a gesglir yn ddata gwyliadwriaeth felly er ein bod yn gallu darparu data mwy amserol nag ystadegau swyddogol, nid yw’r data o ansawdd mor uchel.
Mae data tueddiadau cyfyngedig ar gael, gan mai dim ond data o’r ddwy flynedd flaenorol sydd ar gael fel cymhariaeth.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys categorïau gyda niferoedd bach sy’n dueddol o amrywio ar hap ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r gyfradd.
Mae yna gyfyngau hyder mawr o amgylch yr amcangyfrifon cyfradd.
Efallai nad yw pob marwolaeth drwy hunanladdiad tybiedig o ran trigolion Cymru wedi cael eu dal yn llawn, oherwydd:
- Nid oes gennym gysylltiadau hollol sefydledig â thimau RTSSS eraill y tu allan i Gymru eto, felly efallai nad ydym wedi cofnodi holl farwolaethau trigolion Cymru a ddigwyddodd y tu allan i Gymru.
- Nid oes gennym broses sefydledig eto ar gyfer dal hunanladdiadau tybiedig lle digwyddodd y farwolaeth yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad.
Roedd data ar feddiannaeth yn anghyflawn, felly ni chafodd ei gynnwys yn yr adroddiad hwn.
Roedd data ar gyflyrau iechyd meddwl ac a oedd y person yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn y 6 mis cyn marwolaeth yn seiliedig yn bennaf ar wybodaeth sydd ar gael i’r Heddlu. Roedd llawer o’r wybodaeth hon yn cynnwys data o systemau gwybodaeth iechyd ond efallai nad oedd hyn bob amser ar gael. Roeddem yn gallu cynnwys gwybodaeth ychwanegol a chroeswirio rhywfaint, ond nid pob un, ar gyflyrau iechyd meddwl a’r defnydd o wasanaethau iechyd meddwl gyda ffynonellau eraill (e.e. Porth Clinigol Cymru, adroddiadau gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru).
Gall maint y casgliad data amrywio rhwng yr heddluoedd wrth i wahanol systemau gael eu cyrchu er mwyn cael data.
Mae rhestr o feysydd data wedi’i datblygu ar gyfer yr RTSSS, ond nid ydym eto yn gallu casglu’r holl ddata, e.e. crefydd, statws anabledd, neu sefydlu lefel ansawdd data, e.e. grŵp ethnig, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol.
Ar gyfer grŵp ethnig, byddwn yn archwilio’r opsiynau ar gyfer gwella ansawdd data, ond mae’n parhau i fod yn anodd yn absenoldeb mynediad at ddata meddygon teulu. Nod yw data ar hunaniaeth rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol ar gael yn rhwydd o ffynonellau eraill ar hyn o bryd, ond pan fydd hyn ar gael o ffynhonnell ddibynadwy, byddwn yn archwilio dichonoldeb casglu’r wybodaeth hon.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi dadansoddiadau sy’n amcangyfrif cyfraddau hunanladdiad yn ôl grŵp ethnig, statws anabledd, grŵp crefyddol (Anghydraddoldebau demograffig cymdeithasol mewn hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol) a chyfeiriadedd rhywiol (Hunan-niweidio a hunanladdiad trwy gyfeiriadedd rhywiol, Cymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Diwygiadau ers adroddiad gwyliadwriaeth blynyddol 2023 i 2024
Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr:
Mae dadansoddiadau ychwanegol gan ddefnyddio data rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2025 wedi’u cynnwys. Y rhain yw:
- Cyfraddau bras o farwolaethau trwy hunanladdiad tybiedig, yn ôl ardal breswyl awdurdod lleol, cyfnod o 3 blynedd
- Y ffactorau cysylltiedig mwyaf cyffredin yn ôl rhyw, cyfnod 3 blynedd
- Y dull mwyaf cyffredin o farwolaeth yn ôl rhyw, cyfnod o 3 blynedd
- Troseddwyr a dioddefwyr cam-drin domestig, yn ôl rhyw, cyfnod o 3 blynedd.
- Mae’r dangosydd ‘Hysbys i’r heddlu (erioed)’ wedi’i ddileu ac ychwanegwyd ‘Hysbys i’r heddlu yn y 6 mis blaenorol’.
- Mae teitl y dangosydd ‘Hysbys i wasanaethau iechyd meddwl’ wedi’i ddiwygio i ‘Hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn y 6 mis blaenorol’ i egluro’r cyfnod amser yr oedd y person wedi bod yn hysbys ynddo.