Brechlynnau teithio
Dylid darparu asesiad cyffredinol yn seiliedig ar risg o risg iechyd teithio unigol cyn teithio fel bod posib cynllunio a darparu’r pecyn cynhwysfawr gorau o gyngor a gofal. Mae asesiad risg cadarn, cyflawn yn sail i’r ymgynghoriad iechyd cyn teithio
Isod mae dolen at ffurflen enghreifftiol sy’n dangos y math o fanylion sydd eu hangen fel sail i asesiad risg ac i gofnodi rheoli risg. Gellir dod o hyd i’r ffurflen hon ar wefan y Rhwydwaith a’r Ganolfan Iechyd Teithio Cenedlaethol (NaTHNaC) / Travel Health Pro (TravelHealthPro yw’r wefan sy’n cynnwys adnoddau iechyd teithio NaTHNaC).
Mae rhai o’r dolenni ar y dudalen hon ar gael yn Saesneg yn unig gan eu bod yn cysylltu â gwefannau allanol.
Adnoddau i’r cyhoedd
- Mynnwch gip ar yr ystod o wasanaethau a ddarperir gan NaTHNaC (safle allanol).
- Dewch o hyd i wybodaeth am frechlynnau ar gyfer gwledydd penodol ar wefan Travel Health Pro (safle allanol).
- Dewch o hyd i Ganolfan Frechu’r Dwymyn Felen gofrestredig yn eich ardal chi ar y wefan Parth Twymyn Felen (safle allanol).
- Ewch i wefan Travel Aware Llywodraeth y DU i ddysgu sut i gadw’n ddiogel ac yn iach wrth deithio dramor (safle allanol)
- Ewch i wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (safle allanol).
- Mae gwefan Fit for Travel yn wefan fynediad cyhoeddus am ddim sy’n darparu gwybodaeth iechyd gyfredol i’r cyhoedd yn y DU ar osgoi salwch a chadw’n iach wrth deithio dramor (safle allanol).
Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
- Mae gan wefan NaTHNaC ganllawiau manwl ar ystod gynhwysfawr o bynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd teithio (safle allanol). Yr adran o’r wefan sydd wedi’i anelu at glinigwyr iechyd teithio yw Travel Health Pro.
- Ewch i deithio ac iechyd rhyngwladol ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd (safle allanol).
Hyfforddiant
- Mynnwch gip ar ein hadnoddau a’n digwyddiadau hyfforddi imiwneiddio (I’w diweddaru yn fuan).
- Ewch i wefan y Coleg Nyrsio Brenhinol i gael gwybodaeth am ddatblygu gyrfa a chymhwysedd (safle allanol).