Neidio i'r cynnwys

Brechlyn MenACWY - Am frechlyn MenACWY

Mae brechlyn rhag grŵp meningococol C wedi bod ar gael ers 1999. Cyflwynwyd y brechlyn MenC yn rhan o raglen frechu reolaidd y DU yn 1999 a’r brechlyn MenACWY yn 2015. Mae gostyngiad mawr wedi bod mewn achosion o afiechyd meningococol MenC ac MenW.

Enwau brand y brechlynnau a ddefnyddir yn y DU yw MenQuadfi, Menveo neu Nimenrix.

Mae’r brechlyn MenACWY yn cael ei roi fel rheol fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Mae pobl ifanc 13 i 14 oed (blwyddyn ysgol 9) yn cael cynnig y brechlyn MenACWY fel mater o drefn ochr yn ochr â’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau.

  • Mae pobl ifanc dan 25 oed hefyd yn parhau’n gymwys os nad ydynt wedi cael y brechlyn MenACWY erioed.
  • Plant a phobl ifanc o 10 oed hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed os oes ganddynt hanes brechu MenC anghyflawn neu anhysbys.
  • Mae’n bosibl y bydd pobl sydd â risg uwch o afiechyd meningococol oherwydd cyflwr meddygol neu driniaeth bresennol, teithio, mudo neu eu swydd, neu gysylltiad agos ag achos o afiechyd meningococol, yn cael eu hargymell i gael y brechlyn MenACWY hefyd.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal llid yr ymennydd neu wenwyn gwaed (sepsis) a achosir gan grwpiau bacteria meningococol A, C, W ac Y. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu. 

Mae hyn oherwydd bod bacteria eraill a all achosi’r afiechydon hyn hefyd, gan gynnwys yr afiechyd meningococol grŵp B nad yw’n dod o dan y brechlyn MenACW.

I gael rhagor o wybodaeth am lid yr ymennydd a sepsis, ymweld â gwefan Meningitis Now.

Sgîl-effeithiau’r brechlyn

Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin a welir gyda’r brechlyn MenACWY yw:

  • poen, chwyddo neu gochni yn safle’r pigiad
  • safle’r pigiad yn caledu ac yn cosi
  • cur pen
  • teimlo’n sâl a dim awydd bwyd
  • blinder

I gael mwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau, edrychwch ar: 

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Gwybodaeth bellach

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn MenB neu’r afiechydon y mae’n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 4ydd Awst 2025