Brechlyn Hepatitis B - Gwybodaeth hepatitis B i weithwyr iechyd proffesiynol
Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Newidiadau i’r rhaglen frechu ddewisol i fabanod newyddenedigol rhag hepatitis B – yn dod i rym o 1 Gorffennaf 2025
Bydd yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru yn newid yn 2025 a 2026. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhaglen frechu ddewisol i fabanod newyddenedigol a aned i famau â hepatitis B (HepB).
O 1 Gorffennaf 2025:
- Bydd y dos HepB unfalent sy’n cael ei chynnig i fabanod blwydd oed fel rhan o amserlen y rhaglen frechu ddewisol i fabanod newyddenedigol rhag HepB yn cael ei thynnu o’r amserlen.
O 1 Ionawr 2026:
- Bydd ychwanegu (4edd dos) o’r brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (hecsafalent) yn ystod apwyntiad arferol newydd i fabanod 18 mis oed yn disodli’r angen i gael dos o’r brechlyn HepB unfalent yn flwydd oed.
Mae’n bwysig iawn bod babanod sy’n gymwys i fod yn rhan o’r rhaglen imiwneiddio ddewisol i fabanod newyddenedigol rhag Hepatitis B yn cael y dos hon pan fyddant yn 18 mis oed.
I gael rhagor o fanylion am y newidiadau hyn, gweler:
- Newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant ac i’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Llwybr imiwneiddio detholus newyddenedigol ar gyfer Hepatitis B (yn weithredol o 1 Gorffennaf 2025) ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r daflen wybodaeth am y newidiadau hyn yma:
Brechlyn
Mae dau ddosbarth o gynhyrchion ar gael ar gyfer imiwneiddio rhag Hepatitis B. Mae imiwnoglobwlin Hepatitis B yn rhoi imiwnedd dros dro a goddefol wrth aros i’r brechlyn ymateb, a’r brechlyn Hepatitis B, sy’n rhoi imiwnedd gweithredol.
Nid yw’r brechlyn Hepatitis B yn cynnwys organebau byw (mae’n anweithredol) ac ni all achosi’r afiechyd. Mae’n cael ei baratoi o gelloedd burum ac yn cael ei weithgynhyrchu gan dechnoleg DNA ailgyfunol.
Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG (“brechlyn 6-mewn-1”).
Mae’r rhaglen imiwneiddio reolaidd gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.
Imiwneiddio ar gyfer pobl sydd â risg uchel o Hepatitis B
Brechlyn Hepatitis B yn ystod beichiogrwydd
Gall haint Hepatitis B mewn merched beichiog arwain at afiechyd difrifol i’r fam a haint cronig i’r babi felly fe’ch cynghorir i beidio ag atal brechlyn hepatitis B i fenyw feichiog os yw hi mewn categori risg uchel.
Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw risg o frechu merched beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn erbyn hepatitis B. Gan ei fod yn frechlyn anweithredol (wedi’i ladd), mae’r risgiau i’r babi heb ei eni yn debygol o fod yn fach iawn a dylid rhoi’r brechlyn hepatitis B pan mae risg bendant o haint.
Babanod sy’n cael eu geni i famau sydd â Hepatitis B
Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio ar gyfer Hepatitis B i bob merch. Mae babanod sy’n cael eu geni i famau y canfyddir eu bod, yn dilyn sgrinio, wedi’u heintio’n gronig â feirws hepatitis B (HBV) neu sydd wedi cael hepatitis B acíwt yn ystod beichiogrwydd, mewn perygl o gael eu heintio â HBV. Yn ogystal â’r brechlynnau hepatitis B arferol, mae angen rhoi dosau ychwanegol o’r brechlyn hepatitis B i fabanod sy’n cael eu geni i famau sydd wedi’u heintio â hepatitis B ar enedigaeth, yn 4 wythnos ac yn 1 mlwydd oed.
Mae rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn cael eu hystyried yn famau â risg uchel arbennig oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai babanod sy’n cael eu geni i’r mamau risg uchel hyn gael chwistrelliad o imiwnoglobwlin Hepatitis B (HBIG) adeg eu geni. Mae HBIG wedi’i wneud o waed ac mae’n cynnwys gwrthgyrff i hepatitis B. Mae’n rhoi amddiffyniad cyflym ond nid yw’n para’n hir. Bydd arnynt angen brechlyn Hepatitis B hefyd i roi amddiffyniad iddynt yn y tymor hwy.
Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed yn 12 mis oed i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B.
Brechlyn Hepatitis B ar gyfer y rhai yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’
Mae pawb mewn grwpiau risg uchel yn cael cynnig y brechlyn hepatitis B hefyd. Mae rhai o’r grwpiau hyn yn cynnwys yr unigolion canlynol:
- pobl ag afiechyd cronig ar yr arennau (CKD cam 4 a 5, gan gynnwys haemodialysis) sydd angen Hepatitis B
- pobl ag afiechyd cronig ar yr iau / afu (er enghraifft y rhai sydd ag afiechyd difrifol ar yr iau / afu, fel sirosis o unrhyw achos, neu sydd ag afiechyd llai difrifol ar yr iau / afu ac a allai rannu ffactorau risg ar gyfer cael haint hepatitis B, fel unigolion sydd â hepatitis C cronig)
- pobl sy’n cael gwaed neu gynhyrchion gwaed yn rheolaidd (er enghraifft, unigolion sydd â hemoffilia, thalasaemia, neu anemia cronig arall) neu ofalwyr sy’n rhoi cynhyrchion o’r fath
- pobl sy’n chwistrellu cyffuriau
- pobl sy’n bartneriaid rhywiol, yn blant, neu’n gysylltiadau teuluol agos neu gartref â phobl sy’n chwistrellu cyffuriau (PWID)
- pobl sy’n newid partneriaid rhywiol yn aml, dynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM) neu weithwyr rhyw masnachol
- pobl sy’n gysylltiadau cartref, teulu agos neu’n gysylltiadau rhywiol i unigolyn sydd â haint hepatitis B
- pobl sy’n aelodau o deulu sy’n mabwysiadu plant o wledydd sydd â lefel uchel neu ganolig o hepatitis B
- pobl sy’n, neu’n aelod agos o deulu neu’n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth tymor byr sy’n derbyn lleoliadau brys
- pobl sy’n, neu’n aelod agos o deulu neu’n rhannu cartref â gofalwyr maeth parhaol sy’n derbyn plentyn sydd wedi’u heintio â hepatitis B
- pobl sy’n garcharorion mewn sefydliadau cystodaeth yn y DU, gan gynnwys y rhai sydd ar remand
- pobl sy’n preswylio mewn llety ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu
- pobl sy’n oedolion neu’n blant sy’n mynychu gofal dydd, ysgolion, a chanolfannau ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu ac, yn seiliedig ar asesiad risg lleol, sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad drwy’r croen (fel brathu neu gael eich brathu) yn rheolaidd
- pobl sydd mewn perygl galwedigaethol yn unig o ddod i gysylltiad â hepatitis B
- pobl sy’n teithio i wledydd risg uchel
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei roi fel cynnyrch sengl neu gyfun:
- Hepatitis B (HepB) unfalens:
- Brechlyn hepatitis A a B cyfun (HeBHepA):
- Hepatitis B hecsafalent:
- Hepatitis B ar gyfer cleifion arennol:
Dylid dewis cynnyrch brechlyn priodol ar gyfer y claf.
Mae’r cyfarwyddyd o ran amserlen yn y Llyfr Gwyrdd, pennod 18, ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol) yn disodli’r SmPC.
Cyfarwyddyd
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI: chwilio e.e. Hepatitis B.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
- Dileu hepatitis (B ac C) fel bygythiad iechyd cyhoeddus: camau gweithredu ar gyfer 2022 i 2023 a 2023 i 2024 ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Cyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer dileu hepatitis (B ac C) fel bygythiad arwyddocaol i iechyd cyhoeddus ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Cyflwyniad i’r brechlyn hecasafalent (“6 mewn 1”) gan gynnwys hepatitis B yn y rhaglen imiwneiddio reolaidd ar gyfer babanod sydd wedi’u geni ar neu ar ôl 1 Awst 2017 ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Newid brechlyn ar gyfer y prif imiwneiddio rheolaidd i fabanod ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
Adnoddau clinigol a gwybodaeth
- Llyfr Gwyrdd, pennod 18 am hepatitis B ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).
- Brechlyn cyfun hecsafalent: cyfarwyddyd rhaglen gan UKHSA ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).
- Hepatitis B: argymhellion brechlyn yn ystod cyfyngiadau cyflenwad ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Templedi PGD ar gyfer y brechlyn ar gael ar y dudalen cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Adnoddau clinigol a gwybodaeth bellach
Data a goruchwyliaeth
Mae gwybodaeth goruchwylio brechlynnau ar gael ar y tudalennau isod:
Os ydych chi’n ystyried y brechlyn hwn fel rhan o ddiogelu eich iechyd i deithio, edrychwch ar dudalen brechlynnau teithio.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 5ed Awst 2025