Brechlyn ffliw - Ynglŷn â brechlyn ffliw
Mae achosion o ffliw bob gaeaf. Mae’n bwysig iawn cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn os ydych chi’n gymwys.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol.
Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau ffliw sydd ar gael yn y DU yn anweithredol ac eithrio’r brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV) – dyma’r brechlyn sy’n cael ei roi i’r rhan fwyaf o blant cymwys. Yr enw brand ar gyfer y LAIV sydd ar gael yn y DU yw Fluenz®. Mae LAIV yn cynnwys feirysau byw sydd wedi’u gwanhau a’u haddasu’n oer fel mai dim ond yn nhymheredd is y llwybrau trwynol y gallant atgynhyrchu.
Oherwydd natur gyfnewidiol feirysau’r ffliw, a newidiadau yn y straen sy’n cylchredeg ac yn achosi afiechyd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn monitro epidemioleg feirysau’r ffliw ledled y byd ac yn gwneud argymhellion blynyddol ynghylch pa straen y dylid ei chynnwys ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi Cyfansoddiad a argymhellir ar gyfer brechlynnau feirws ffliw i’w defnyddio yn nhymor ffliw hemisffer y gogledd 2024-2025 (safle allanol) yn hemisffer y gogledd.
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Mae nifer o frechlynnau ffliw anweithredol ar gael. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob brechlyn yn y crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC) sydd ar gael yn y ddolen isod drwy roi enw’r brechlyn:
- Ataliwr trwynol Fluenz Trivalent nasal spray brechlyn ffliw ar ffurf hylifog (wedi’i wanhau’n fyw, trwynol) – SmPC (emc) (safle allanol)
- Hafan - electronic medicines compendium (safle allanol)
Brechlynnau sy’n cael eu argymell
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i wefan GIG 111 Cymru (gwefan allanol), siarad â’ch meddyg neu nyrs neu ffonio GIG 111 Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau ffliw, gan gynnwys eu cynnwys a sgil-effeithiau posibl, yn www.medicines.org.uk/emc (gwefan allanol). Rhowch enw’r brechlyn yn y blwch chwilio.
Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Mae amserlen sy’n dangos pa imiwneiddiadau sy’n cael eu cynnig fel mater o drefn yng Nghymru ar gael.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Chwefror 2026