Brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) - Gwybodaeth brechlyn HPV i weithwyr iechyd proffesiynol
Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ar gyfer 2025-26.
Ers 2018, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi bod yn adolygu’n fanwl y dystiolaeth am amddiffyn drwy gael un dos o frechlyn HPV. Mae’r JCVI o’r farn bod y dystiolaeth bellach yn gryf iawn bod un dos yn rhoi amddiffyniad tebyg i’r hyn a roddir gan ddau ddos.
Gweler datganiad y JCVI yn llawn ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).
Yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023, bellach mae amserlen un dos ar gyfer brechiadau HPV ar gyfer rhaglen arferol y glasoed a dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) o dan 25 oed. Darperir manylion pellach yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2023/016 (gweler yr adran Canllawiau isod).
Argymhellir un dos o’r brechlyn HPV ar gyfer:
- Pawb yn y glasoed sy’n imiwnogymwys (bechgyn a merched)*. Mae’r brechlyn HPV yn cael ei gynnig mewn ysgolion i ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 (rhwng 12 a 13 oed fel arfer). Mae dynion a merched mewn carfannau sy’n gymwys i gael eu brechu yn y rhaglen genedlaethol yn parhau felly tan eu pen-blwydd yn 25 oed – gweler y Llyfr Gwyrdd am fanylion.
- GBMSM hyd at 25 oed sy’n mynychu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Arbenigol a/neu glinigau HIV.*
Mae amserlen dau ddos or brechiad HPV yn cael ei argymell ar gyfer:
- GBMSM sydd rhwng 25 a 45 oed.
Noder: dylai unigolion sy’n gymwys ar gyfer brechiad HPV sy’n imiwnoataliedig neu’n HIV positif gael cynnig tri dos o’r brechlyn HPV.
Gwybodaeth am Gardasil
Gardasil yw’r brechlyn sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y GIG ers 2012. Yn 2022, cyflwynwyd Gardasil 9 yn rhan o raglen frechu HPV y GIG. Dyma’r prif frechlyn HPV sy’n cael ei roi yng Nghymru nawr.
Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag mathau o HPV (6, 11, 16, 18, 31, 33, 45, 52 a 58). Mae mathau HPV: 16 ac 18 yn fathau HPV risg uchel a all arwain at ganser; mae 6 ac 11 yn fathau HPV sy’n achosi tua 90% o’r holl ddefaid anogenhedlol mewn gwrywod a benywod.
Mae Gardasil 9 yn cynnig gwarchodaeth rhag 5 math ychwanegol o HPV (31, 33, 45, 52, 58) sydd, er yn llai cyffredin na mathau 16 a 18, hefyd yn cael eu hystyried yn risg uchel. Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag y mwyafrif o ganserau ceg y groth, y fagina a’r fylfa a briwiau cyn-ganseraidd, yn ogystal â defaid gwenerol sy’n gysylltiedig â HPV.
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Mae’r amserlen imiwneiddio rheolaidd gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy’n rheolaidd a’r rhai sydd ddym yn rheolaidd.
Canllawiau
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol) – i ddarllen cyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI gallwch chwilio am e.e. HPV.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
- CIC: Diweddariad ynghylch y rhaglen imiwneiddio rhag feirws papiloma dynol. Gweithredu ar symud i drefn un dos o’r brechlyn Feirws Papiloma Dynol yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Newidiadau i’r brechlyn ar gyfer y rhaglen Imiwneiddio HPV ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Newid i rhaglen dau-ddos brechu yn erbyn HPV ar gyfer pobl yn eu harddegau ac oedolion yn dechrau’r cwrs ar ol 15 blwydd oed, gan gynnwys dynio’n sy’n cael rhyw gyda dynion (2022) ar SharePoint (safle allanol).
- Cyngor interim y JCVI ar amserlen un dos ar gyfer y rhaglen imiwneiddio HPV ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).
- Y brechlyn HPV i fechgyn yn eu harddegau (2018) ar SharePoint (safle allanol).
- Y brechlyn HPV i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion (2017) ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Llythyr ar y cyd y Prif Swyddog Meddygol/y Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddiaeth y Cyfarwyddwyr Addysg at benaethiaid am gynnal rhaglenni brechu mewn ysgolion yn ystod COVID-19 ar SharePoint (safle allanol, Saesneg yn unig).
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Papilomafeirws dynol (HPV): y llyfr gwyrdd, pennod 18a ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).
- Brechu yn erbyn HPV: canllawiau i gweithwyr iechyd gan UKHSA ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).
- Pecyn cymorth brechu ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd gwasanaethau iechyd rhywiol.
Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen gwasanaeth cyngor ar feddyginiaethau Cymru.
Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth
- Adnoddau i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.
- Templed llythyr eglurhaol HPV ar gyfer blwyddyn 8 – Dwyieithog.
- Templed ffurflen gydsynio HPV heb ei phoblogi – Dwyieithog .
Adnoddau eraill
- Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru.
- Adnoddau feirws papiloma dynol (HPV) oedran ysgol 2025.
- Rhaglen Frechu Papilomafeirws Dynol (HPV): Dogfen friffio ar gyfer penaethiaid a staff ysgolion.
Data a goruchwyliaeth
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Hydref 2025