Neidio i'r cynnwys

Brechlyn eryr - Cymhwysedd ac apwyntiadau

Hyd yn oed os ydych eisoes wedi cael yr eryr, dylech gael y brechlyn o hyd gan y bydd yn lleihau eich risg o gael yr eryr eto.

Pwy ddylai gael y brechiad? 

Mae arbenigwyr brechlynnau wedi cynghori y dylid cynnig y brechlyn rhag yr eryr i bobl 60 oed a throsodd. Bydd yn cael ei wneud mewn camau dros 10 mlynedd.   

Maen nhw hefyd wedi cynghori bod y brechlyn yn cael ei gynnig i bobl 18 oed a hŷn sydd â systemau imiwnedd gwan iawn.   

Mae’r tabl hwn yn dangos pwy sy’n gymwys i gael brechlyn rhag yr eryr o fis Awst 2025.  

Eich oedran  A oes gennych system imiwnedd wan iawn?  Pryd y byddwch yn cael y brechlyn eryr 
18 oed a throsodd  Oes  Ar neu ar ôl eich pen-blwydd yn 18 oed 
65 neu 70   Nac oes  Ar neu ar ôl eich pen-blwydd yn 65 neu 70 oed 
70 i 79  Nac oes  Os nad ydych chi wedi cael brechiad yr eryr eisoes, rydych chi’n gymwys. Trefnwch apwyntiad gyda’ch meddygfa. 
66 i 69  Nac oes  Os gwnaethoch chi droi yn 65 oed cyn 1 Medi 2023 byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwch yn troi yn 70 oed. 
60 i 64  Nac oes  Byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwch yn troi yn 65 oed 

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl gymwys, bydd y brechlyn eryr yn cael ei gynnig nes eu bod yn 80. Fodd Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl gymwys, bydd y brechlyn rhag yr eryr yn cael ei gynnig nes eu bod yn 80. Fodd bynnag, os oes gennych system imiwnedd wan iawn, gallwch gael y brechlyn o’r adeg y byddwch yn 18 oed hyd at unrhyw oedran.   

Gall pobl â system imiwnedd wan iawn gynnwys:  

  • rhai â chanserau penodol, fel lewcemia neu lymffoma  
  • rhai sy’n cymryd meddyginiaethau penodol 
  • rhai sy’n cymryd dos cymedrol i uchel o steroidau, a  
  • rhai sydd wedi cael trawsblaniad organ.  

Nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer cael y brechlyn rhag yr eryr os oes gennych system imiwnedd wan iawn. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn cael y brechlyn cyn gynted ag y byddwch yn gymwys er mwyn i chi gael eich diogelu cyn gynted â phosibl.   

Dylech fanteisio ar y cynnig i gael y brechiad rhag yr eryr os ydych chi’n gymwys.  

Gwybodaeth:

Dylech fanteisio ar y cynnig i gael y brechiad rhag yr eryr os ydych chi’n gymwys. 

 
A oes angen y brechlyn arnaf os wyf wedi cael yr eryr o’r blaen? 

Oes. Hyd yn oed os ydych eisoes wedi cael yr eryr, dylech gael y brechlyn o hyd gan y bydd yn lleihau eich risg o gael yr eryr eto.  

Beth am bobl sydd y tu allan i’r grwpiau oedran hyn? 

Bydd pobl iau yn cael cynnig y brechlyn pan fyddant yn cyrraedd yr oedran cymwys.  

Gallwch gael yr eryr ar unrhyw oedran, ond mae’r risg, difrifoldeb a chymhlethdodau yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn. Mae pobl â systemau imiwnedd gwan iawn mewn mwy o berygl, a dyna pam mae’r brechlyn weithiau’n cael ei argymell yn gynharach.  

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14eg Awst 2025