Brechlyn eryr - Diogelwch ac effeithiolrwydd
A yw brechlyn yr eryr yn ddiogel?
Ydy, mae’r brechlyn rhag yr eryr yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, caiff ei ddiogelwch ei fonitro’n agos.
A allaf gael yr eryr o hyd ar ôl i mi gael fy mrechu?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r eryr. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod am arwyddion a symptomau’r eryr, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am yr eryr, ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
A allaf gael y brechlyn rhag yr eryr ar yr un pryd â brechlynnau eraill?
Gallwch gael y brechlyn rhag yr eryr ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Gall y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi drafod hyn gyda chi.
Oes unrhyw sgîl-effeithiau?
Mae sgîl-effeithiau brechiad yr eryr yn eithaf ysgafn fel rheol ac nid ydynt yn para’n hir.
Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw:
- poen, cochni neu chwydd yn y fraich lle rhoddwyd y pigiad
- cur pen/pen tost
- symptomau stumog (fel teimlo’n sâl neu fod yn sâl, anhwylder ar y stumog neu boen yn y stumog)
- teimlo’n flinedig
- oerfel neu dwymyn, a
- phoenau cyffredinol
Gallwch orffwys a chymryd y dos arferol o paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â defnyddio peiriannau na gyrru os ydych chi’n teimlo’n sâl.
Os yw’r sgil-effeithiau’n para mwy nag ychydig ddyddiau, dylech siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Dysgu rhagor am sgîl-effeithiau
Mae’r holl sgîl-effeithiau wedi’u cynnwys yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i wefan EMC am wybodaeth am Shingrix (safle allanol).
Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi.
Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn wefan Yellow Card (safle allanol), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).
A oes unrhyw un na ddylai gael y brechiad yr eryr?
Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:
- ddos blaenorol o’r brechlyn, neu
- gynhwysyn yn y brechlyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych chi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.
Os oes gennych anhwylder gwaedu, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs practis cyn i chi gael y brechlyn.
A ddylwn i gael y brechlyn os ydw i’n sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?
Os ydych chi’n sâl, mae’n well aros nes eich bod yn well i gael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad.
Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os ydych chi’n ansicr, trafodwch hyn gyda’r person sy’n rhoi’r brechlyn i chi.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14eg Awst 2025