Neidio i'r cynnwys

Brechlyn COVID-19 - Diogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn COVID-19

Fel yn achos pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgileffeithiau. Mae’r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau yn rhai ysgafn a thymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael. 

Ni ddylai’r sgileffeithiau mwyaf cyffredin bara’n hirach na diwrnod neu ddau, ac maent yn cynnwys y canlynol: 

  • teimlad trwm neu ddolur lle cawsoch y pigiad 
  • gwynegon cyffredinol, neu symptomau tebyg i ffliw ysgafn 
  • teimlad o gyfog neu chwydu  
  • dolur rhydd 
  • blinder 
  • pen/tost cur pen, a  
  • thwymyn ysgafn. 

Efallai y bydd babanod dan ddwy flwydd oed hefyd yn bigog, yn gysglyd, ac yn colli eu harchwaeth. 

Efallai y bydd gennych dwymyn ysgafn am ddeuddydd neu dridiau ar ôl cael brechlyn. Fodd bynnag, mae tymheredd uchel yn anarferol a gall fod am fod gennych haint neu salwch arall. Os ydych yn poeni, siaradwch â’ch meddyg neu eich nyrs. 

Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir), a gorffwys i’ch helpu i deimlo’n well. Ni ddylid rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i blant dan 16 oed.

Sgîl-effaith anghyffredin ar ôl cael y brechlyn COVID-19 yw chwarennau chwyddedig yn y gesail neu’r gwddf, ar yr un ochr â’r fraich lle cawsoch y brechiad. Gall hyn bara am oddeutu deng niwrnod, ond os yw’n para’n hirach na hynny cysylltwch â’ch meddygfa i gael cyngor. Os yw’n bryd i chi gael prawf sgrinio’r fron (mamogram) yn yr ychydig wythnosau ar ôl cael eich brechu, soniwch pan fyddwch yn mynd i’r apwyntiad eich bod wedi cael y brechlyn COVID-19.

Mewn achosion prin, adroddwyd am lid y galon ar ôl rhai brechlynnau COVID-19. Gelwir hyn yn myocarditis neu pericarditis. Mae’r achosion hyn wedi’u gweld yn bennaf ymhlith dynion iau o fewn sawl diwrnod ar ôl y brechiad. Gwnaeth y rhan fwyaf o’r bobl hyn wella ac roedden nhw’n teimlo’n well ar ôl gorffwys a chael triniaeth syml.

Dylech gael cyngor meddygol ar frys os ydych yn profi’r canlynol: 

  • boen yn y frest
  • diffyg anadl, neu
  • fod eich calon yn curo’n gyflym, yn dychlamu, neu’n curo’n galed.

Mae sgil-effeithiau eraill yn anghyffredin neu’n brin iawn. 

Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ffoniwch GIG 111 neu eich meddygfa. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud pa frechlynnau a gawsoch fel y gall eich asesu’n llawn. Gallwch hefyd fynd i GIG 111 Cymru ar-lein.

Ble y gallaf ddod o hyd i daflenni gwybodaeth i gleifion?

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gan gynnwys yr hyn sydd ynddo a sgileffeithiau posibl, darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion.

Mae symbol triongl du ar frechlyn neu feddyginiaeth yn golygu ei fod yn cael ei fonitro’n agos am unrhyw sgîl-effeithiau. Bydd hyn yn caniatáu adnabod gwybodaeth ddiogelwch newydd yn gyflym. Gallwch helpu drwy roi gwybod am unrhyw sgîl-effeithiau y gallech chi neu’ch plentyn eu cael.

Dylech roi gwybod am sgil effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn wefan Yellow Card, drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Os ydw i’n sâl, a ddylwn gael y brechlyn?

Os ydych yn sâl, mae’n well aros nes eich bod yn well cyn cael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad. Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os nad ydych yn siŵr, trafodwch hyn â’r unigolyn sy’n eich brechu.

Cefais adwaith alergaidd i ddos blaenorol o’r brechlyn COVID-19. A ddylwn gael rhagor o ddosau?

Mae Cymdeithas Alergedd ac Imiwnoleg Glinigol Prydain (BSACI) wedi rhoi cyngor ar adweithiau alergaidd. Mae wedi dweud ei bod yn bosibl y gallai pobl a gafodd adwaith i’r dos cyntaf o frechlyn COVID-19 gael dosau pellach.

Ar ôl adolygiad gan arbenigwr, mae llawer o unigolion wedi cael dosau dilynol o’r un brechlyn. Dyma a ffefrir gan ei fod yn eich atal rhag cael eich labelu’n anghywir am oes yn unigolyn a chanddo alergedd.

Mae’r wefan Anaphylaxis UK hefyd yn cynnig gwybodaeth i unigolion sydd ag alergedd.

Prin iawn yw’r bobl na ddylai gael brechlyn COVID-19. Mae’r rhan fwyaf o bobl ag alergeddau yn gallu cael y brechlyn heb gael problemau. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i: 

  • dos blaenorol o’r un brechlyn, neu 
  • gynhwysyn yn y brechlyn. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os cawsoch adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Beth os oes gennyf alergeddau eraill? A allaf gael y brechlyn COVID-19?

Gallwch. Mae’r brechlynnau COVID-19 presennol yn ddiogel i’r rhai ag alergedd (gan gynnwys anaffylacsis) i’r canlynol:  

  • pigiad gan gacynen, gwenynen, neu bryfed eraill  
  • penisilin neu wrthfiotigau eraill 
  • cnau, neu fwyd neu ddiod arall. 

Bydd y nyrs neu’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad yn gallu trafod y brechlyn yn yr apwyntiad ac ateb unrhyw gwestiynau.  

A fydd y brechlyn COVID-19 yn fy atal rhag dal y feirws?

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i atal salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19. Gall gymryd ychydig wythnosau i’ch corff adeiladu amddiffyniad rhag COVID-19 ar ôl y brechiad. 

Fel pob meddyginiaeth, nid oes yr un brechlyn yn 100% effeithiol – gall rhai pobl ddal i gael COVID-19 er gwaethaf cael brechiad, ond dylai eu symptomau fod yn llai difrifol.

Mae’n bosibl y bydd lefelau eich amddiffyniad yn dechrau lleihau dros amser, felly efallai y bydd angen i chi gael brechlynnau ychwanegol.

Mae rhaglen frechu y DU wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac wedi brechu miliynau o bobl ac achub miloedd o fywydau.

Mae’n dal yn bwysig adnabod arwyddion a symptomau COVID-19, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am COVID-19 ewch i canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19

Rwy’n gymwys i gael y brechlyn COVID-19, ond rwy’n feichiog neu’n ceisio beichiogi. A alla i gael y brechlyn?

Gallwch, gellir rhoi pob brechlyn COVID-19 a ddefnyddir yn y DU i fenywod beichiog cymwys, neu’r rhai sy’n ceisio beichiogi ac sy’n gymwys. 

Os ydych yn feichiog, dylech ddweud wrth y nyrs neu’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad i chi.

Os ydych chi’n ceisio beichiogi, nid oes angen osgoi beichiogi ar ôl cael brechiad COVID-19. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod brechlynnau COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb na’ch siawns o feichiogi. 

Dangoswyd bod y brechlynnau presennol yn effeithiol ac yn ddiogel, heb unrhyw effeithiau negyddol ar feichiogrwydd na’r babi. Nid yw cael y brechlyn yn cynyddu’r risg o gamesgoriad. 

Rwy’n gymwys i gael brechiad COVID-19 ac rwy’n bwydo ar y fron. A alla i gael y brechlyn?

Gallwch. Gellir rhoi unrhyw un o’r brechlynnau COVID-19 a ddefnyddir yn y DU i bobl sy’n bwydo ar y fron.

Ar ôl cael brechlyn, mae eich system imiwnedd yn cynhyrchu gwrthgyrff. Sylwedd naturiol yw’r rhain sy’n helpu i’ch amddiffyn rhag feirysau a bacteria. Gall gwrthgyrff y mae eich corff yn eu creu basio i laeth y fron a gallant helpu i amddiffyn babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron. Nid oes yna dystiolaeth o niwed i’r baban, a disgwylir y bydd unrhyw olion yn cael eu torri i lawr gyda llaeth y fron yn stumog y baban.

Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i fwydo ar y fron i gael y brechlyn COVID-19.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Hydref 2025