Neidio i'r cynnwys

Brechlyn COVID-19 - Sgamiau yn ymwneud â’r brechlyn  

Clywais fod yna sgamiau yn ymwneud â’r brechlyn COVID-19. Sut ydw i’n gwybod a yw neges e-bost, galwad ffôn neu neges destun yn ddilys?

Mae sgamwyr yn aml yn cysylltu trwy e-bost, galwadau ffôn, negeseuon testun, neu bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y byddant hyd yn oed yn galw yn eich cartref ac mae’n bosibl y byddant yn gofyn i chi am arian.

Cafwyd adroddiadau am sgamiau yn ymwneud â’r brechlyn COVID-19. Yng Nghymru, dim ond trwy fyrddau iechyd lleol y GIG y bydd brechlynnau COVID-19 ar gael.

Cofiwch:

  • Ni fydd y GIG fyth yn gofyn i chi am fanylion eich cyfrif banc neu gerdyn – mae’r brechlyn am ddim i’r sawl sy’n gymwys.  
  • Ni fydd y GIG fyth yn gofyn i chi am eich PIN na’ch cyfrinair bancio.  
  • Ni fydd staff y GIG fyth yn galw yn eich cartref yn ddirybudd i roi’r brechlyn COVID-19 i chi.  
  • Ni fydd y GIG fyth yn gofyn i chi anfon copïau o ddogfennau personol megis eich pasbort, trwydded yrru, biliau, neu slipiau cyflog i brofi pwy ydych chi.  

Os byddwch yn cael galwad, neges destun, neu neges e-bost yn honni ei bod yn llinell trefnu brechiad COVID-19 ac yn gofyn am eich manylion banc neu am arian, sgam yw hwn. Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc dros y ffôn neu mewn neges e-bost i ffynhonnell anhysbys neu i unrhyw un na all gadarnhau pwy ydyw.

Mae rhagor o wybodaeth am ganfod twyll a sgamiau (Saesneg yn unig).

Beth y dylwn ei wneud os byddaf yn cael galwad ffôn, neges destun, neu neges e-bost sy’n sgam yn fy ngwahodd i gael y brechlyn COVID-19?

Os byddwch yn cael galwad yr ydych yn amau ei bod yn sgam, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith. Gallwch roi gwybod i Action Fraud trwy ffonio 0300 123 2040 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm).

Os byddwch yn cael neges destun amheus sy’n sgam yn eich barn chi, gallwch ei hanfon i 7726. Gwasanaeth rhad ac am ddim yn y DU yw hwn i roi gwybod am negeseuon testun sgam. Mae 7726 yn sillafu SPAM ar fysellfwrdd ffôn. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni nac ymateb i’r neges destun.

Os ydych yn teimlo’n bryderus neu’n amheus ynghylch neges e-bost yr ydych wedi’i chael, anfonwch y neges i [email protected] fel y gellir adnabod y sgamiau hyn a’u hatal. Osgoi ac adrodd sgamiau ar-lein a gwe-rwydo (Saesneg yn unig). 

Pan fyddwch yn anfon y neges amheus ymlaen, byddwch yn cael ateb yn gofyn am y rhif a anfonodd y neges destun atoch. Bydd Action Fraud yn mynd ar drywydd y mater gyda darparwr eich ffôn symudol.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosibl trwy ffonio 0300 123 2040 neu ewch i wefan Action Fraud (Saesneg yn unig).

Gwnewch yn siŵr bod gan eich meddyg teulu eich manylion cyswllt diweddaraf fel y gellir cysylltu â chi i gael y brechlyn COVID-19 cyn gynted ag sy’n briodol.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8fed Rhagfyr 2025