Brechiad y pas (pertwsis) - Diogelwch ac effeithiolrwydd
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r pas, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am y pas ewch i wefan GIG 111 Cymru neu os hoffech ddysgu mwy am y afiechyd, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i’w helpu ar ein tudalen y pas.
Diogelwch y brechlyn mewn beichiogrwydd
Nid oes tystiolaeth bod y brechlyn a gynigir yn ystod beichiogrwydd yn risg i fenywod beichiog, y beichiogrwydd neu’r baban. Nid yw’n frechlyn byw, felly ni allwch gael y pas ohono.
Mae’r brechlyn a gewch wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae astudiaethau’n dangos nad oes unrhyw risgiau i feichiogrwydd yn cael eu hachosi gan y brechlyn. Mae cyfraddau babanod normal, iach yr un fath ar gyfer menywod sydd wedi’u brechu a heb eu brechu.
Mae’r brechlyn yn hynod effeithiol ac mae ganddo hanes diogelwch rhagorol. Rhoddir miliynau o ddosau ledled y byd.
Nid oes ffordd well na’r brechiad o amddiffyn eich baban rhag y pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth.
Efallai bod eich amddiffyniad (trwy naill ai gael y pas neu gael eich brechu pan oeddech yn ifanc) wedi pylu. Hyd yn oed os ydych yn bwriadu bwydo ar y fron, nid oes digon o amddiffyniad rhag y pas yn cael ei drosglwyddo yn llaeth y fron i amddiffyn eich baban.
Mae cael eich brechu yn lleihau eich risg o gael eich heintio â’r pas a’r risg o drosglwyddo’r pas i’ch baban.
Pwy na ddylai gael y brechlyn y pas?
Ychydig iawn o resymau sydd pam na allwch chi gael brechlyn y pas. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unrhyw un sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n bygwth bywyd) i ddos blaenorol o’r brechlyn, neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn. Dywedwch wrth eich darparwr gofal iechyd os oes gennych alergedd i latecs, gan fod brechlyn amgen addas ar gael ar gyfer y rhai ag alergedd i latecs.
Sgîl-effeithiau’r brechlyn
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir, ac nid yw pawb yn eu cael. Dim ond diwrnod neu ddau ddylai’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin bara.
Sgîl-effeithiau cyffredin:
Rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn ystod y diwrnod neu ddau cyntaf yw:
- chwyddo, cochni neu dynerwch lle cawsoch y brechlyn
- pen tost/cur pen
- dolur rhydd
- poenau yn y corff neu wendid yn y cyhyrau
- blinder, a
- theimlo’n sâl.
Sgîl-effeithiau prin iawn
Mae adweithiau alergaidd difrifol yn brin iawn. Gall y rhain gynnwys:
- brech a all gosi neu ffurfio pothelli
- tafod neu wefusau glas
- llygaid ac wyneb chwyddedig
- anhawster wrth anadlu neu lyncu, a
- phendro neu golli ymwybyddiaeth.
Gall adweithiau fel hyn ddigwydd cyn i chi adael eich practis meddyg teulu. Fodd bynnag, os cewch unrhyw un o’r symptomau hyn ar unrhyw adeg ar ôl cael y brechiad, dylech gysylltu â meddyg ar unwaith.
Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i’w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i wefan medicines.org.uk:
Os bydd eich symptomau chi neu eich plentyn yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111, neu cysylltwch â’ch practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 15fed Awst 2025