Brechiad y pas (pertwsis) - Gwybodaeth brechlyn y pas i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal
Mae ADACEL® a’r pedwarfalent (4-mewn-1) yn anweithredol (nid brechlynnau byw) ac yn rhydd o thiomersal. Gan nad yw brechlynnau anweithredol yn cynnwys unrhyw organebau byw, ni allant ddyblygu ac ni allant achosi haint i’r fam na’r ffetws. Mae’r brechlynnau hyn fel arfer yn hynod effeithiol ac mae ganddynt gofnodion diogelwch rhagorol.
Bydd y 4-mewn-1 yn parhau i fod y brechlyn a ddefnyddir ar gyfer y brechiad atgyfnerthu cyn-ysgol i blant, ac ar gyfer brechu cyn-geni menywod beichiog y mae ADACEL® wedi’i wrtharwyddio ar eu cyfer (e.e. oherwydd hanes o alergedd anaffylactig i latecs).
Imiwneiddiadau yn ystod beichiogrwydd
Amseriad rhoi brechlyn yn ystod beichiogrwydd
Cynigir brechlyn y pas i bob menyw feichiog o 16 wythnos ymlaen. Yn ddelfrydol fe’i cynigir rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd y baban yn cael ei amddiffyn o gyfnod yr enedigaeth. Gellir rhoi’r brechlyn ar ôl 32 wythnos, ond gan fod angen amser ar y corff i wneud gwrthgorffynnau i’w trosglwyddo i’r baban heb ei eni, efallai na fydd yn rhoi’r un lefel o amddiffyniad i’r baban. Mae angen brechiad ar fenywod beichiog ym mhob beichiogrwydd.
Gall menywod na chafodd brechlyn y pas yn ystod eu beichiogrwydd ei dderbyn o hyd yn ystod y ddau fis ar ôl genedigaeth (hyd nes y bydd y plentyn yn cael ei ddos cyntaf o’r brechlyn sy’n cynnwys y pas). Bydd hyn yn amddiffyn y fenyw a gall ei hatal rhag dod yn ffynhonnell haint i’r baban, er na fydd yn amddiffyn y baban yn uniongyrchol. Nid oes unrhyw dystiolaeth o risg o frechu menywod sy’n bwydo ar y fron gyda brechlyn y pas.
Newid mewn cynnyrch brechlyn ar gyfer menywod beichiog
Ar hyn o bryd, nid oes brechlyn y pas unfalens ar gael. Ym mis Hydref 2022, cynghorodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) frechlyn y pas nad oedd yn cynnwys IPV (Tdap) yn y rhaglen famau i fynd i’r afael â bwlch imiwnedd posibl. Ers 1 Gorffennaf 2024, mae’r brechlyn sy’n cynnwys y pas ar gyfer menywod beichiog wedi newid o’r pedwarfalent dTaP/IPV (Boostrix-IPV®) i frechlyn trifalent sy’n cynnwys tetanws, difftheria a’r pas (Tdap) o’r enw ADACEL®.
Fel Boostrix- IPV®, mae ADACEL® yn cynnwys y dosau isaf o’r pas, difftheria a thetanws, ond nid yw’n cynnwys y gydran polio a geir yn Boostrix-IPV®. Fodd bynnag, gellir dal i roi Boostrix-IPV® (neu Repevax®) os nad yw ADACEL® ar gael neu os caiff ei wrthgymeradwyo.
Mae ymchwil yn dangos bod babanod mamau a gafodd eu brechu â brechlynnau dTaP/IPV yn ystod beichiogrwydd â lefelau gwrthgyrff polio is, ond sy’n dal yn amddiffynnol, o gymharu â babanod mamau heb eu brechu.
Imiwneiddiadau babanod a phlentyndod
Cynigir brechiad sy’n cynnwys y pas mewn babanod a phlant gyda’r brechlyn 6-mewn-1 (DTaP/IPV/Hib/HepB) a’r brechlyn atgyfnerthu 4-mewn-1 (DTaP/IPV) ar adegau priodol yn unol ag amserlen frechu plentyndod arferol y GIG ar gyfer Cymru.
Gweithwyr Gofal Iechyd
Gall gweithwyr gofal iechyd fod yn ffynhonnell haint bwysig i fabanod bregus. Mae’r rhai sydd â chyswllt uniongyrchol â menywod beichiog neu fabanod, nad ydynt wedi cael brechlyn sy’n cynnwys y pas yn y 5 mlynedd diwethaf, yn gymwys i gael brechlyn sy’n cynnwys y pas fel rhan o’u gofal iechyd galwedigaethol. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r ddolen isod.
Mae’r amserlen imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol a’r rhai nad ydynt yn arferol.
Crynodeb o nodweddion y cynnyrch
- Brechlynnau’r pas yn ystod beichiogrwydd: ADACEL® (safle allanol) / Boostrix-IPV® (safle allanol) / REPEVAX® (safle allanol).
- Brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 cyn ysgol: Boostrix-IPV® (safle allanol)/ REPEVAX® (safle allanol).
- Brechlyn babanod 6 mewn 1 (brechiadau babanod): Infanrix Hexa® (safle allanol)/Vaxelis® (safle allanol).
Mae’r atodlen canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd pennod 24 am Y Pas ar wefan Llywodraeth y DU (Saeseng yn unig) yn disodli’r SmPC.
Arweiniad
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar wefan Llywodraeth y DU (Saeseng yn unig) – darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI: chwilio e.e., y pas.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
- Cylchlythyrau iechyd: 2021 i 2023 ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
- Cylchlythyrau iechyd: 2024 i 2027 ar wefan Llywodraeth Cymru (safle allanol).
Adnoddau a gwybodaeth clinigol
- Llyfr Gwyrdd pennod 24 am y pas ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol)
- Rhaglen frechu Pertwsis (y pas) UKHSA ar gyfer merched beichiog: gwybodaeth i ymarferyddion gofal iechyd (safle allanol).
- Poster A4 y Pas a Beichiogrwydd.
Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau
- Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y wefan cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Adnoddau
- Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol – Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr: Gwybodaeth i glinigwyr (safle allanol).
Data a goruchwyliaeth
Mae gwybodaeth gwyliadwriaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod:
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 15fed Awst 2025