Neidio i'r cynnwys

Beth os oes angen cymorth arnaf i gymryd rhan mewn sgrinio

Deall yr wybodaeth

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch, cysylltwch â ni. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol. 

Mynd i fy apwyntiad

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol i gael eich/ei sgrinio, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu neu’ch clinig cyn yr apwyntiad os:

  • Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad yw’r Gymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf i chi.
  • Oes anabledd gennych chi, fel y gall y practis meddygon teulu neu’r clinig gynnig apwyntiad hygyrch i chi.
  • Ydych yn defnyddio ci cymorth.
  • Oes angen i ofalwr ddod gyda chi.
  • Ydych yn gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
  • Oes gennych atwrneiaeth dros iechyd a llesiant ar gyfer yr unigolyn sydd wedi cael ei wahodd. Byddai angen i chi ddod ag ID a’r ddogfen Atwrneiaeth gyda chi i’w apwyntiad.

Teithio i fy apwyntiad

Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i gael cymorth i deithio i’ch apwyntiad, gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu’ch cynorthwyo chi.

Cynllun costau teithio gofal iechyd

Gan fod costau byw uwch yn effeithio ar lawer ohonom, mae’n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y GIG.

Er nad yw cymorth ariannol ar gyfer mynychu apwyntiadau sgrinio arferol yn cael ei ddarparu o dan reolau’r Adran Iechyd, mae’n bosibl y bydd rhai pobl sydd angen dod yn ôl am brofion pellach yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG (Saesneg yn unig) yn rhoi canllawiau clir i bobl ynghylch pryd y gellir darparu cymorth ariannol. Mae gan y cynllun feini prawf cymhwysedd llym. I’r rhai sy’n gymwys, mae’r cynllun yn cefnogi’r gost o deithio i’r ysbyty neu eiddo arall y GIG ar gyfer triniaeth a ariennir gan y GIG neu brofion diagnostig.

I wirio a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i dudalennau gwe ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG (Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth.