Neidio i'r cynnwys

Ansawdd a diogelwch deintyddol

O fewn y Ddyletswydd Ansawdd, caiff ansawdd ei ddiffinio fel diwallu anghenion y boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu mewn modd parhaus, ddibynadwy a chynaliadwy. Mae hwn yn ddiffiniad ehangach na’r hyn y mae Deintyddiaeth GIG wedi’i ddeall, ei asesu, a’i fonitro yn y gorffennol.

Mae gofal deintyddol sylfaenol yn fwy na rhoi triniaeth glinigol i gleifion, ac nid yw ansawdd wedi’i gyfyngu i ganlyniadau clinigol – mae’n cynnwys hefyd ganlyniadau o safbwynt y claf a sut caiff gwasanaeth ei drefnu a’i ddarparu.

Mae tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda’r Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a phartneriaid eraill yn y system i greu system ddeintyddol sy’n dysgu, sy’n gwella’n barhaus ac sy’n cael y canlyniad gorau posibl i’r boblogaeth yng Nghymru.

Mae gwahanol sefydliadau yng Nghymru a’r DU yn cyfrannu at gynnal diogelwch a gwella ansawdd gofal deintyddol yng Nghymru. Dyma rai sefydliadau allweddol sy’n cyfrannu at gynnal diogelwch a gwella ansawdd gofal deintyddol:

  • Practisau deintyddol
  • Cyngor Deintyddol Cyffredinol (DU)
  • Llywodraeth Cymru.
  • Byrddau Iechyd
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
  • Llais
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Hunanasesiad Sicrhau Ansawdd (QAS)

Mae’r tîm Iechyd Cyhoeddus Deintyddol yn lletya pecyn cymorth Hunanasesiad Sicrhau Ansawdd (QAS) Practisau Deintyddol Cymru Gyfan ar ran Byrddau Iechyd a phractisau deintyddol yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd Fforwm Ansawdd a Diogelwch Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol bob dwy flynedd.

Mae’r QAS yn becyn cymorth hunanasesu sy’n cefnogi’r darparwyr Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol/Personol (GDS/PDS) yng Nghymru i nodi meysydd lle gallant wella ansawdd a diogelwch yn eu practis. Mae cwblhau’r pecyn cymorth QAS hefyd yn helpu practisau deintyddol i gydymffurfio â’u gofyniad GDS / PDS eu contract GIG.

Mae pob practis deintyddol sydd â chontract deintyddol y GIG yn cwblhau’r pecyn cymorth QAS bob blwyddyn.

Yn ogystal â’r practisau eu hunain yn nodi meysydd i’w gwella trwy hunanasesiadau, caiff y pecynnau cymorth QAS a gwblheir ym mhob maes bwrdd iechyd, eu hasesu gan gynghorwyr practisau deintyddol a gyflogir gan y byrddau iechyd. Mae’r cynghorwyr hyn rhoi cyngor i’r timau rheoli contractau deintyddol mewn Byrddau Iechyd os oes unrhyw bryderon Ansawdd a Diogelwch yn deillio o hunanasesiadau’r practis.

Mae cyngor a chymorth gwella ansawdd (QI) ar gyfer practisau ar gael gan gynghorwyr practisau deintyddol y Byrddau Iechyd. Mae cyfres o becynnau cymorth, archwiliadau ac adnoddau QI (gan gynnwys cyllid) ar gael ar gyfer y practisau deintyddol o Raglen Gwella Ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Gall practisau deintyddol gysylltu â’r addysgwr QI sydd wedi’i neilltuo i’w ardal bwrdd iechyd i gael cyngor a chefnogaeth bellach.

Dylai practisau deintyddol sydd â chontract deintyddol y GIG ond sydd ddim wedi cofrestru ar gyfer y QAS gysylltu â [email protected]. Gall y rhai sy’n dymuno cael mynediad i’w cyfrif fewngofnodi.