Neidio i'r cynnwys

Amgylcheddau Gordewogenig

Defnyddir y term amgylchedd gordewogenig i ddisgrifio amgylchedd byw sy’n annog cymeriant ynni uchel a diffyg ymarfer corff. Gall hyn wneud cynnal pwysau iach yn heriol.

Mae rhai enghreifftiau o ffactorau amgylcheddol gordewogenig yn cynnwys:

  • diffyg cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol: mynediad cyfyngedig i fannau diogel ar gyfer gweithgarwch corfforol, swyddi eisteddog, dibyniaeth ar geir a mwy o amser sgrin;
  • amgylchedd bwyd: bwydydd ar gael yn eang sy’n uchel mewn calorïau ac yn wael o ran maeth, bwyd yn cael ei farchnata’n bwerus, dognau mawr, lleoliadau heb lawer o fynediad at fwyd iachach, a chost uchel opsiynau iachach;
  • ffactorau yn yr amgylchedd ehangach sy’n achosi straen a heriau iechyd meddwl a lles;
  • ffactorau economaidd: gwahaniaethau mewn incwm, costau uchel byw’n iach, ac arferion corfforaethol sy’n blaenoriaethu elw dros iechyd;
  • dylanwadau cymdeithasol a diwylliannol: normau diwylliannol sy’n blaenoriaethu cyfleustra, dylanwadau gan deulu a chyfoedion, a’r cyfryngau’n hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr.
  • penderfynyddion masnachol: mae bwydydd sy’n uchel mewn braster a siwgr ar gael yn eang ac yn cael eu hyrwyddo,  ac nid oes llawer o reoleiddio ar farchnata’r bwydydd hyn.