Ynglŷn â sgrinio clyw babanod - Y clinig awdioleg – profion
Mae’r dudalen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i rieni y mae eu babi wedi’i atgyfeirio am asesiad clyw o’r prawf sgrinio clyw babanod newydd-anedig.
Beth mae’n ei olygu os yw fy maban wedi cael ei atgyfeirio i gael asesiad clyw?
Mae eich baban wedi cael ei atgyfeirio i’ch adran awdioleg leol i gael asesiad clyw gydag awdiolegydd (arbenigwr clyw). Mae hyn oherwydd na ddangosodd y prawf sgrinio clyw ymateb clir o un o glustiau eich baban neu’r ddwy glust. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod gan eich baban golled clyw.
Gall hyn ddigwydd os:
- Oedd eich baban yn aflonydd;
- Oedd hylif yn y glust (ar ôl yr enedigaeth);
- Oedd gormod o sŵn o gwmpas eich baban pan gafodd y prawf ei wneud; neu os
- Oes gan eich baban golled clyw.
Argymhellir yn gryf bod eich baban yn cael prawf clyw pellach. Gallwch ddewis a yw eich baban yn cael y prawf hwn ai peidio.
Am bob 10 baban sy’n cael y prawf clyw hwn, bydd gan un ohonynt golled clyw parhaol.

Pryd fydd yr asesiad yn cael ei wneud?
Anfonir apwyntiad atoch o fewn 4 wythnos ar ôl prawf sgrinio clyw diwethaf eich baban. Os treuliodd eich baban amser yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) anfonir yr apwyntiad hwn o fewn 8 wythnos.
Bydd babanod a gafodd eu geni’n gynnar yn cael eu profi ar ôl y dyddiad yr oeddynt i fod i gael eu geni. Mae hyn yn rhoi amser i glyw eich baban ddatblygu.
Ble bydd yr asesiad yn cael ei wneud?
Byddwch yn cael cynnig apwyntiad yn eich Clinig Awdioleg lleol. Bydd y tîm Awdioleg yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad.
Pa mor hir fydd yr asesiad?
Mae’r asesiad yn cymryd tua dwy awr, ac mae’n cynnwys cyfle i chi setlo’ch babi. Fe allai’r asesiad fod yn hirach os yw eich babi’n aflonydd. Mae gofyn gwneud nifer o wahanol brofion weithiau, a bydd angen digon o amser i chi drafod y canlyniadau gyda’r awdiolegydd. Bydd rhai babanod yn gorfod dod yn ôl ar ddiwrnod arall i gael mwy o brofion.
Oes rhaid i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi?
Byddai o help pe baech yn dod â sêt, bygi neu bram eich babi gyda chi, ac unrhyw glytiau a bwyd sy’n ofynnol. Gan fod angen distawrwydd i wneud y profion, byddai’n well gadael plant eraill yng ngofal rhywun arall. Cofiwch ganiatáu digon o amser i barcio’ch car.
A ddylai fy mabi fod yn cysgu?
Mae gofyn bod eich babi wedi setlo neu’n cysgu cyn gwneud y prawf clyw. Mae sŵn a symudiadau babi’n gallu rhwystro’r awdiolegydd rhag gweld yr ymateb o’i glustiau, felly bydd yn gwneud yr asesiad tra bo’r babi’n dal yn y cyfnod pan mae’n cysgu llawer yn ystod y dydd. Bydd yr awdiolegydd yn rhoi cyfle i chi yn ystod yr apwyntiad i setlo eich babi.
Sut caiff clyw fy maban ei brofi?
Mae ychydig o wahanol brofion y gellir eu gwneud. Bydd yr awdiolegydd yn esbonio pob prawf i chi.

Rhoddir padiau bach gludiog ar ben eich baban a thu ôl i’w glustiau. Rhoddir clustffonau i mewn i glustiau eich baban, neu dros ei glustiau. Bydd y clustffonau hyn yn gwneud synau gwahanol. Mae’r offer yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau’ch baban yn ymateb i’r sain.
Y Canlyniadau
Ymateb clir:
Os bydd dwy glust eich baban yn dangos ymateb clir, mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol bod gan eich baban golled clyw. Bydd yr awdiolegydd yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sain wrth iddynt dyfu. Bydd yr wybodaeth yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni am glyw eich baban.
Efallai na fydd y prawf yn dangos ymateb clir:
Os nad yw’r naill na’r llall o glustiau eich baban yn dangos ymateb clir, bydd yr awdiolegydd yn esbonio beth mae hynny’n ei olygu.
Mae gwahanol fathau a lefelau o golled clyw. Efallai y bydd angen mwy o brofion cyn i chi wybod am glyw eich baban. Efallai y bydd y profion hyn yn cael eu cynnal yn ystod eich apwyntiad cyntaf neu efallai y bydd angen apwyntiadau pellach. Bydd yr awdiolegydd yn cynllunio gyda chi’r amser gorau i’ch baban gael mwy o brofion.
Profion ychwanegol

Mae profion eraill y gall yr awdiolegydd eu gwneud i gael rhagor o wybodaeth am glustiau a chlyw eich baban. Mae un o’r profion hyn yn gwirio a oes hylif yn y glust. Ar gyfer y prawf hwn, rhoddir clustffon bach â blaen meddal yn rhan allanol clust eich baban a chaiff canlyniad ei gofnodi ar beiriant.

Mae’r prawf arall yn gwirio sut mae clustiau mewnol eich baban yn ymateb i sain. I wneud y prawf hwn, mae peiriant sain bach yn cael ei osod y tu ôl i glust(iau) eich baban.
Gall hwn fod yn gyfnod pryderus. Bydd yr awdiolegydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os oes gan eich baban golled clyw, byddwch yn cael cynnig cymorth a rhagor o wybodaeth.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Mawrth 2026