Neidio i'r cynnwys

Adnoddau sgrinio proffesiynol ar gyfer cymunedau ethnig lleiafrifol

Os ydych chi’n weithiwr cymunedol neu’n weithiwr iechyd proffesiynol sy’n rhoi cymorth i gymunedau ethnig lleiafrifol, mae adnodd Gweithio gyda’n Gilydd ar gael i’w ddefnyddio. Mae’r canllaw hwn yn cynnwys camau ymarferol i gefnogi mynediad at sgrinio.

Beth allwch chi ei wneud

Dyma rai awgrymiadau am bethau y gallwch chi eu gwneud:

  • Ymuno â’n hyfforddiant ymwybyddiaeth o sgrinio ar-lein sydd yn rhad ac am ddim ac annog eich cydweithwyr a rhwydweithiau cymunedol i ymuno.
  • Ystyried tystiolaeth ymchwil i gael syniadau am yr hyn y gallwch chi ei wneud i godi ymwybyddiaeth am sgrinio.
  • Edrych ar ein hadroddiadau ar sgrinio i gael gwell dealltwriaeth ynghylch pwy sy’n mynd i gael eu sgrinio.
  • Siarad â phobl am sgrinio yn eich cymuned neu eich gweithle.
  • Cynnal sesiynau ymwybyddiaeth o sgrinio yn eich cymuned neu eich gweithle.
  • Rhannu a chyfeirio pobl i’r wybodaeth sgrinio ac adnoddau gwybodaeth hygyrch ar ein gwefannau.
  • Rhannu adnoddau sgrinio digidol drwy eich gwefannau cyfryngau cymdeithasol, ar WhatsApp a thrwy fwletinau digidol.
  • Defnyddio ein gwybodaeth ar ffurf Hawdd ei Deall, Iaith Arwyddo Prydain a Sain i helpu pobl y gall fod angen cymorth arnynt i wneud penderfyniad am sgrinio.
  • Dewis ymgyrch genedlaethol y gallwch chi ei chefnogi i godi ymwybyddiaeth o sgrinio yn eich cymuned neu eich gweithle.