Adnoddau hyfforddiant diogelu
Un o egwyddorion pwysicaf diogelu yw ei fod yn gyfrifoldeb i bawb. Yn aml, bydd staff gofal iechyd yn gweithio gyda phobl pan fydd angen cymorth arnynt fwyaf a gallant fod yn dyst i anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau cymdeithasol sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Gallai methu â sylwi ar arwyddion rhybuddio esgor ar ganlyniadau difrifol a golygu bod perygl i unigolion agored i niwed gael eu cam-drin, eu hesgeuluso a’u hecsbloetio. Er mwyn sicrhau bod pawb sydd yn eich gofal yn ddiogel, mae’n hanfodol bod sgiliau staff yn cael eu datblygu’n llawn er mwyn iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau diogelu’n fedrus.
Rolau a chymwyseddau diogelu ar gyfer staff gofal iechyd
Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyhoeddi canllawiau rhyng-golegol sy’n egluro’r safonau proffesiynol y mae angen i bob aelod o staff mewn sefydliadau gofal iechyd eu cyrraedd os oes disgwyl iddynt ymwneud â diogelu. Mae wedi llunio dwy ddogfen – y naill yn ymdrin â phlant a phobl ifanc a’r llall yn ymdrin ag oedolion – lle ceir fframwaith clir sy’n nodi’r cymwyseddau diogelu ar gyfer pob aelod o staff (clinigol ac anghlinigol) sy’n gweithio mewn unrhyw leoliad gofal iechyd, er mwyn sicrhau bod staff gofal sylfaenol yn medru ymgymryd â’u dyletswyddau diogelu.
Modiwlau e-ddysgu-diogelu
Mae modiwlau e-ddysgu ar gael ar borth y Cofnod Staff Electronig. Mae’r modiwlau yn cynnwys:
- Diogelu Pobl (Oedolion a Phlant) Lefel 1
- Diogelu Plant Lefel 2
- Diogelu Oedolion Lefel 2
- Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Y Ddeddf Galluedd Meddyliol Lefel 1 a Lefel 2
- Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
- Adnabod a Chynorthwyo Dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern
Adnoddau ychwanegol
Darparwyr allanol hyfforddiant ynghylch diogelu plant ac oedolion: