Gwybodaeth iechyd rhywiol - Rhyw diogel
Mae addysg rhyw a pherthnasoedd yn ceisio’r rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc er mwyn iddyn nhw allu datblygu perthnasoedd iach o bob math.
Bydd addysg rhyw a pherthnasoedd yn edrych ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer perthynas glòs, gan gynnwys dulliau atal cenhedlu, datblygu perthnasoedd corfforol, a gwrthsefyll pwysau i gael rhyw. Bydd addysg rhyw a pherthnasoedd yn egluro beth sy’n ymddygiad derbyniol a beth sy’n ymddygiad annerbyniol mewn perthynas.
Relate
Mae Relate yn elusen sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth am berthnasoedd i unrhyw un yn y Deyrnas Unedig.
Mae’n darparu cyngor ar briodas, materion LGBTQ+, ysgariad a magu plant. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth cwnsela i gyplau, teuluoedd, pobl ifanc ac unigolion, a therapi rhyw.
Mae Relate yn canolbwyntio ar ddarparu ei wasanaethau ar-lein, drwy gwnsela ar y we, a/neu sgwrsio byw therapiwtig.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i ddod o hyd i’ch Relate agosaf, ewch yma (Saesneg). Mae modd gwneud ymholiadau trwy e-bostio [email protected], neu ffonio 0300 003 2340.
Rhyw diogel
Cydsyniad
Mae cydsyniad rhywiol yn golygu cytuno i gael unrhyw brofiad rhywiol – gallai hynny olygu cyffwrdd rhywun, cusanu rhywun neu gael rhyw llawn gyda nhw. Mae hefyd yn golygu cytuno i rannu lluniau/fideos personol – mae hi’n anghyfreithlon rhannu lluniau/fideos personol heb gydsyniad y person.
16 yw’r oedran cydsynio yn y DU, i ferched ac i fechgyn a beth bynnag yw eich cyfeiriadedd rhywiol.
Os byddwch chi’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch rhywiol heb gydsyniad yr unigolyn, mae hynny’n ymosodiad rhywiol neu’n drais rhywiol. Felly, er mwyn diogelu eich hun a’r unigolyn arall, mae’n bwysig iawn gwybod eich bod wedi cael cydsyniad. Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol, cliciwch yma i gael gwybod sut a ble mae cael help.
Sut mae cael cydsyniad?
Mae’n hawdd – GOFYNNWCH!
I gael gwybod mwy am ‘Beth yw Cydsyniad?’ ewch i The Mix.org (Saesneg).
Dulliau atal cenhedlu
Mae dulliau atal cenhedlu yn diogelu yn erbyn beichiogrwydd anfwriadol. Ar hyn o bryd mae 15 dull atal cenhedlu ar gael yn y DU. Condom yw’r unig ddull atal cenhedlu sy’n helpu i’ch diogelu rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).
I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael gwybod pa ddull sydd orau i chi, ewch i’n tudalen am ddulliau atal cenhedlu.
Diogelwch ar y rhyngrwyd
Meddyliwch yn ofalus am yr hyn rydych chi’n ei rannu:
Ddylech chi ddim rhannu na llwytho unrhyw beth i fyny na fyddech chi eisiau i’ch rhieni, eich athrawon, eich cydweithwyr neu eich ffrindiau ei weld. Ar ôl i chi anfon neu lwytho rhywbeth i fyny, nid yw’n breifat mwyach ac mae modd i unrhyw un ei lwytho i lawr a/neu ei rannu. Ar ôl rhannu rhywbeth ar-lein, allwch chi ddim ei reoli wedyn.
Peidiwch ag anfon lluniau na fideos ohonoch eich hun at rywun dieithr neu rywun rydych chi wedi cwrdd â nhw ar-lein. Cofiwch efallai na fydd rhywun rydych chi wedi cwrdd â nhw ar-lein yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Peidiwch byth â theimlo dan bwysau i sgwrsio â rhywun ar-lein.
Secstio
Beth ydy hyn?
Mae ‘secstio’ yn golygu defnyddio technoleg i rannu cynnwys rhywiol, mae hyn yn golygu lluniau neu fideos o rywun sy’n hollol noeth neu’n rhannol noeth a delweddau rhywiol. Gallai hyn fod rhwng partneriaid, cyfoedion, a dieithriaid ac mae’n aml yn cael ei alw yn ‘anfon lluniau noeth’.
Beth yw risgiau secstio?
Mae risgiau wrth secstio. Pan fydd delweddau a/neu fideos yn cael eu rhannu ar-lein, does dim modd i chi eu rheoli o gwbl wedyn, maen nhw’n gyhoeddus ac mae pobl eraill yn gallu eu cadw, eu rhannu neu eu copïo.
Mae’n anghywir rhannu llun noeth neu bersonol heb gydsyniad y person hwnnw. Mae’n gallu achosi pryder i’r dioddefwr, yn enwedig os bydd y cynnwys yn cael ei rannu gan rywun roedden nhw’n ymddiried ynddo neu ynddi. Mae hefyd yn gallu achosi niwed emosiynol os bydd darpar gyflogwyr, prifysgolion, cydweithwyr, ffrindiau a theulu yn gwybod bod y llun ar-lein. Os bydd delwedd yn cael ei rhannu heb eich cydsyniad – peidiwch â beio eich hun, dim eich bai chi yw hyn – edrychwch isod i gael gwybod sut mae riportio bod rhywun wedi rhannu delwedd neu fideo ohonoch chi heb eich cydsyniad.
Ydy secstio yn anghyfreithlon?
Mae’r gyfraith yn dweud bod creu neu rannu delweddau neu fideos rhywiol o blentyn dan 18 oed yn anghyfreithlon, hyd yn oed os yw’r person sy’n gwneud hynny’n blentyn. Drwy anfon y cynnwys hwn at rywun arall mae wedi creu a dosbarthu delwedd anweddus o blentyn. Drwy dderbyn y cynnwys hwn, mae’r person hwnnw mewn meddiant o ddelwedd anweddus o blentyn. Mae’r naill beth a’r llall yn torri’r gyfraith.
Sut mae’r riportio delwedd neu fideo rhywiol?
Os ydych chi’n poeni am rywbeth rydych chi wedi’i rannu, rhowch wybod am y peth gyntaf gallwch chi gan fod hynny’n ei gwneud hi’n haws rheoli sut mae’r cynnwys yn cael ei ddosbarthu.
Os bydd eich delwedd neu’ch fideo yn cael ei bostio ar safle cyfryngau cymdeithasol, gallwch chi wneud cais iddo gael ei dynnu oddi yno. Byddwch yn benodol wrth riportio, er mwyn dangos bod y llun/fideo yn torri telerau ac amodau’r safle.
Peidiwch â gadael i’r ofn o fynd i drwbl eich stopio rhag riportio. Bydd pobl ifanc yn cael eu trin fel dioddefwyr. Os ydych chi’n poeni eich bod wedi cael eich gorfodi i anfon cynnwys anweddus, gallwch chi riportio hynny wrth Child Exploitation and Online Protection (CEOP). Dolen Saesneg yw hon.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n gweld ‘llun noeth’ o rywun arall ar-lein?
Does neb yn haeddu i ddelwedd neu fideo ohonyn nhw gael ei rannu ar-lein heb gydsyniad. Os byddwch chi’n gweld rhywbeth rydych chi’n meddwl a allai ypsetio rhywun, gallwch riportio’r ddelwedd i’r platfform/safle lle welsoch chi’r cynnwys, neu gallwch chi gysylltu â ChildLine (Saesneg).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025