Neidio i'r cynnwys

Addysg iechyd deintyddol o fewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar

Gall Cynllun Gwên darparu adnoddau i’w defnyddio ar gyfer hybu iechyd y geg, fel taflenni a phosteri. Gallant hefyd ddarparu pecynnau brwsio dannedd a chwpanau hyfforddi i weithwyr proffesiynol. Mae e-daflenni cyngor ar iechyd y geg ar gael i’w defnyddio wrth roi cyngor ar iechyd y geg i deuluoedd.

Cyn tair blwydd oed, mae llawer o blant yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser gartref gyda’u teulu. Gall staff rheng flaen, fel ymwelwyr iechyd a bydwragedd, helpu rhieni, gofalwyr ac aelodau eraill o’r teulu i ddeall pwysigrwydd iechyd y geg da a sut mae’n effeithio ar iechyd, lles a datblygiad cyffredinol, drwy:

  • hybu bwydo ar y fron a diddyfnu iach, a sut i symud o fwydo ar y fron neu botel i ddefnyddio cwpan agored erbyn i’r plentyn gyrraedd 12 mis oed.
  • hybu bwyd, byrbrydau (er enghraifft, ffrwythau ffres) a diodydd (dŵr a llaeth) sy’n rhan o ddeiet iachach
  • hybu’r defnydd o bast dannedd fflworid cyn gynted ag y bydd dannedd yn ymddangos, yn enwedig cyn mynd i’r gwely gyda’r nos
  • dangos sut i ofalu am ddannedd plentyn ifanc ac annog brwsio dannedd o oedran cynnar
  • cynghori ar ddewisiadau eraill yn lle bwydydd, diodydd a byrbrydau llawn siwgr fel ffordd o dawelu plant neu fel gwobr
  • defnyddio meddyginiaeth heb siwgr
  • annog teuluoedd i fynd â’u plant i bractis deintyddol ar ôl iddynt gael eu dant cyntaf ac yn sicr erbyn eu pen-blwydd cyntaf
  • rhoi manylion am sut i gael mynediad i wasanaethau deintyddol arferol a brys

Gall staff y Cynllun Gwên ddarparu sesiynau hyfforddi ar Addysg Iechyd y Geg i weithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant. Gellir darparu sesiynau ar gyfer cyrsiau myfyrwyr sy’n astudio i fod yn weithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â staff ar ôl iddynt gymhwyso, fel ffurf ar ddatblygiad proffesiynol. Cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol i drefnu sesiwn.

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol gael mynediad at wybodaeth am fwyta’n iach, hyfforddiant ac addysg maeth drwy wefan Sgiliau Maeth am Oes.

Codwch y wefus

Mae oedolyn yn codi gwefus uchaf plentyn bach sy’n gwenu, yn ysgafn i wirio ei ddannedd blaen uchaf. Mae hyn yn rhan o'r asesiad iechyd y geg “Codi’r Wefus” sy’n cael ei ddefnyddio i adnabod arwyddion cynnar o bydredd dannedd mewn plant cyn-ysgol.

Offeryn asesu iechyd y geg yw Codi’r Wefus sy’n ei gwneud yn ofynnol i rieni/gwarcheidwaid archwilio dannedd blaen uchaf eu plant cyn-ysgol ym mhresenoldeb gweithwyr iechyd proffesiynol, er mwyn adnabod arwyddion o bydredd dannedd mewn plentyndod cynnar. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio wrth ddarparu cyngor ataliol, ac annog a hwyluso’r defnydd o wasanaethau deintyddol clinigol. Nod Codi’r Wefus yng Nghymru yw cryfhau rôl hybu iechyd y geg ymwelwyr iechyd. Mae Codi’r Wefus yn rhan o sesiynau hyfforddi Cynllun Gwên a ddarperir i dimau ymwelwyr iechyd.

Pwyntiau allweddol:

  • Mae dannedd babi yn bwysig
  • Mae atal pydredd dannedd yn haws na’i drin
  • Mae pydredd yn digwydd yn gyflym iawn i ddannedd babanod
  • Y cynharaf y caiff pydredd ei ganfod, y gorau fydd y canlyniad
  • Gwiriwch ddannedd eich plentyn gartref yn aml
  • Ewch â’ch plentyn at ddeintydd yn rheolaidd, yn ddelfrydol cyn gynted ag y bydd ei ddannedd cyntaf yn ymddangos

Pwrpas Codi’r Wefus yw:

  • annog rhieni i archwilio dannedd eu plentyn yn aml am arwyddion o bydredd dannedd a dangos iddynt sut i wneud hynny
  • tynnu sylw at risg unigol o bydredd dannedd a rhoi cyngor penodol ar sut i’w atal
  • pwysleisio pwysigrwydd iechyd y geg da
  • asesu anghenion unigol am wasanaethau deintyddol, a hwyluso’r defnydd o’r gwasanaethau hynny