Rôl iechyd y cyhoedd mewn camau atal cychwynnol ar gyfer trais rhyngbersonol: Adolygiad systematig o fframweithiau rhyngwladol
Cyhoeddwyd ar: 7fed Ionawr 2025
Awduron: Conan Leavey, Zara Quigg, Lara Snowdon
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cynnydd yn y diddordeb mewn trais fel mater iechyd y cyhoedd. Mae atal trais cyn iddo ddigwydd a datblygu strategaethau ymateb effeithiol yn allweddol i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac i wella iechyd a llesiant. Mae’r arolygiad cwmpasu systematig hwn yn archwilio rôl fframweithiau iechyd y cyhoedd mewn camau atal cychwynnol ar gyfer trais rhyngbersonol.
Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.