Perthnasoedd cymharol rhwng cam-drin plant yn gorfforol ac yn eiriol, lles meddyliol cwrs bywyd a thueddiadau mewn amlygiad: Dadansoddiad eilaidd aml-astudiaeth o arolygon trawstoriadol yng Nghymru a Lloegr
Cyhoeddwyd ar: 6ed Awst 2025
Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes, Kat Ford, Zara Quigg, Nadia Butler
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Archwiliodd yr astudiaeth hon y perthnasoedd rhwng cam-drin corfforol a geiriol yn ystod plentyndod a llesiant meddyliol oedolion. Defnyddiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMJ Open, ddata o arolygon a gynhaliwyd yng Nghymru a Lloegr rhwng 2012 a 2024. Canfu fod cam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â chynnydd tebyg mewn risg o fod â llesiant meddyliol isel â cham-drin corfforol yn ystod plentyndod. Mesurodd yr astudiaeth hefyd dueddiadau mewn cam-drin corfforol a geiriol a hunan-adroddwyd ar draws y carfanau geni.
Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.