Lefelu Iechyd i Fyny: Fframwaith ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth
Cyhoeddwyd ar: 12fed Mehefin 2024
Math o gyfeiriad: Fframwaith
Crynodeb:
Mae’r adroddiad hwn, dan arweiniad Prifysgolion Caergrawnt a Newcastle (Lloegr), yn darparu canllawiau ymarferol ar sut i leihau anghydraddoldebau iechyd ar lefel leol a rhanbarthol. Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at lywodraeth ganolog a lleol yn ogystal ag asiantaethau eraill sydd â budd mewn gwella iechyd. Mae’n cynnwys astudiaethau achos ar fodelau a dulliau o ddylunio a llunio lleoedd newydd fel eu bod yn hyrwyddo iechyd a lles, a gwasanaethau a rhaglenni wedi’u cynllunio o amgylch anghenion penodol lleoedd a chymunedau yn seiliedig ar ymgysylltiad cymunedol da.
Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.