Herio’r wyddoniaeth: Gwybodaeth iechyd y cyhoedd a gweithredu mewn datblygiadau tir dadleuol, cyfathrebu risg ym maes iechyd y cyhoedd
Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2010
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae dadleuon am risgiau i iechyd y cyhoedd yn ymddangos yn y newyddion yn rheolaidd, p’un ai am ddiogelwch bwyd, materion amgylcheddol, ymyriadau meddygol, neu risgiau ‘ffordd o fyw’ megis yfed. I’r rheini sy’n ceisio rheoli neu reoleiddio risgiau, mae ymateb y cyhoedd weithiau’n ymddangos yn rhyfedd. I’r cyhoedd, gall ymddygiad y rheini sydd i fod ‘wrth y llyw’ ymddangos yr un mor rhyfedd. Mae ymddiriedaeth yn hollbwysig yn hyn o beth. Mae’r rhifyn newydd hwn o Risk Communication and Public Health yn cynnwys y cefndir damcaniaethol ac ymchwil, ac yn cyflwyno ystod eang o astudiaethau achos cyfoes a’r profiadau dysgu o ‘r rhain, a’r materion gwleidyddol, sefydliadol a threfniadol y maent yn eu codi.
Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.