Defnyddio asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA) i ddeall goblygiadau penderfyniadau polisi ar gyfer iechyd a llesiant ehangach: ‘Polisi aros gartref a chadw pellter cymdeithasol’ Covid-19 yng Nghymru
Cyhoeddwyd ar: 28ain Gorffennaf 2021
Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton, Mark Bellis, Sumina Azam, Mariana Dyakova, Timo Clemens
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ neu’r ‘Cyfnod Clo’ mewn ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cymru. Mae’n disgrifio’r broses a’r canfyddiadau, yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd ac yn trafod sut y defnyddiwyd y broses i ddeall yn well effeithiau iechyd a llesiant ehangach penderfyniadau polisi y tu hwnt i niwed uniongyrchol i iechyd. Mae hefyd yn archwilio rôl sefydliadau iechyd y cyhoedd wrth hyrwyddo a defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.