Blaenoriaethau rhyngwladol mewn ymchwil HIA: Agenda newydd ar gyfer y ddegawd nesaf
Cyhoeddwyd ar: 26ain Chwefror 2025
Awduron: Fiona Haigh, Liz Green, Margaret Douglas
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn datblygu Iechyd ym Mhob Polisi wrth adnabod effeithiau gweithredoedd arfaethedig ar iechyd a thegwch ac argymell newidiadau i fynd i’r afael â’r effeithiau hyn. Ers Datganiad Gotheburg Consensus yn 1999, mae HIA wedi grymuso i bolisïau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau o fewn sawl sector a gosodiadau ledled y byd. Serch effeithiolrwydd amlwg, mae ei ddefnydd ledled y byd yn anghyson gyda chyn lleied o genhedloedd yn defnyddio HIA yn systematig. O fewn cyd-destun rhyngwladol o gynnydd mewn annhegwch iechyd, pandemig, newid hinsawdd, ac argyfyngau economaidd, gall HIA helpu integreiddio iechyd a thegwch mewn gwneud dewisiadau. Mae angen am ymchwil i gefnogi’r datblygiad cyfredol o HIA. Mae’r papur hwn yn cyflwyno agenda ymchwil i faes HIA.
Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod ar gael.