Asesu’r effaith ar iechyd (HIA) – Astudiaeth achos gymharol o Sri Lanka a Chymru: Beth gall gwlad ddatblygol ei ddysgu o system HIA Cymru?
- Strategaeth iechyd rhyngwladol
Cyhoeddwyd ar: 13eg Gorffennaf 2020
Awduron: Liz Green, Yasaswi N Walpita
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae asesu’r effaith ar iechyd (HIA) yn cael ei gydnabod yn gynyddol ar draws y byd fel offeryn llywodraethu effeithiol i ymgorffori Iechyd ym Mhob Polisi i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd. Fodd bynnag, nid yw’n cael ei gydnabod na’i ymarfer rhyw lawer mewn llawer o wledydd datblygol, yn cynnwys Sri Lanka, lle mae ei berthnasedd yn fwy priodol o ystyried cymhlethdod penderfynyddion cymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau. Nod yr astudiaeth achos gymharol hon oedd archwilio’r rhwystrau o ran gweithredu HIA yn Sri Lanka ym meysydd fframwaith polisi cefnogol, seilwaith sefydliadol, meithrin gallu, a chydweithredu aml-sector a’u cymharu â system HIA lwyddiannus mewn gwlad ddatblygedig (Cymru) gyda’r bwriad o nodi’r “arfer gorau” sydd yn berthnasol yng nghyd-destun gwlad ddatblygol.
Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.