Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Amlygiad i drawma mewn oedolaeth a phrofiadau hunanladdol ymhlith milwyr a chyn-filwyr: Adolygiad systematig a metaddadansoddiad

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 25ain Ebrill 2025

Awduron: Karen Hughes, Kat Ford, Ioannis Angelakis, Josh Molina, Charis Winter, Neil Kitchiner

Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn

Crynodeb:

Mae ymchwil wedi dangos yn gyson amlygrwydd uwch o heriau iechyd meddwl a syniadaeth ac ymdrechion hunanladdol ymhlith personél milwrol ar ddyletswydd weithredol a chyn-filwyr o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol. Gall profiadau trawmatig mewn oedolaeth, yn enwedig y rhai a wynebir yn ystod dyletswydd filwrol, gynyddu’r risg o syniadaeth ac ymdrechion hunanladdol yn sylweddol. Nod yr adolygiad systematig a’r meta-ddadansoddiad hwn oedd archwilio’r berthynas rhwng amlygiad i drawma mewn oedolaeth a phrofiadau hunanladdol mewn poblogaethau milwrol.

Mae’r canfyddiadau’n dangos bod digwyddiadau trawmatig cyn gwasanaeth a’r rhai a brofwyd yn ystod cyflogaeth yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o syniadaeth ac ymdrechion hunanladdol. Mae’r astudiaeth yn tanlinellu’r angen hanfodol am ymyriadau wedi’u targedu i ymdrin â thrawma ymhlith personél milwrol.

Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.

Dolenni: