Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Adolygiad fframweithiau ac offer tegwch iechyd

  • Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi)
Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 22ain Gorffennaf 2024

Awduron: Jo Peden, Rhiannon Griffiths, Sara Southall, Rebecca Hill, Lauren Couzens (nee Ellis)

Math o gyfeiriad: Fframwaith

Crynodeb:

Mae gweithio tuag at degwch iechyd yn dasg heriol ond un hollbwysig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio eich cefnogi yn y gwaith hwn, beth bynnag fo’ch rôl, drwy lunio ystod o offer cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi’u datblygu i arwain y gwaith hwn mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi trosolwg o 22 o fframweithiau ac offer tegwch iechyd i gefnogi llywodraethau, sefydliadau ac unigolion i weithio tuag at degwch iechyd. Daethpwyd o hyd i fframweithiau ac offer trwy chwilio adnoddau rhyngwladol a chenedlaethol allweddol.

Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho