Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ar ymyriadau’n ymwneud ag iechyd meddwl: Adolygiad cwmpasu
- Economi iechyd
- Gwerth cymdeithasol
Cyhoeddwyd ar: 1af Mai 2020
Awduron: Kathryn Ashton, Timo Clemens, Mariana Dyakova, Mark Bellis, Anna Stielke
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae’r adolygiad cwmpasu hwn yn cynnig trosolwg o sut mae adenillion cymdeithasol o fuddsoddi (SROI) a dadansoddiadau cost-budd cymdeithasol (SCBA) yn cael eu defnyddio mewn llenyddiaeth bresennol er mwyn nodi gwerth cymdeithasol ymyriadau iechyd cyhoeddus ar gyfnodau penodol o’r cwrs oes. Mae’r dull cwrs oes mewn iechyd cyhoeddus yn atgyfnerthu pwysigrwydd buddsoddi i sicrhau dechrau da mewn bywyd, gan ddiogelu oedran hŷn diogel, iach a gweithgar. Tynnir sylw at bwysigrwydd casglu gwybodaeth am werth cymdeithasol ac mae’r canlyniadau’n dangos gwerth cadarnhaol buddsoddi mewn ymyriadau iechyd cyhoeddus.
Darllenwch y briff tystiolaeth sy’n cyd-fynd â’r adolygiad cwmpasu hwn.