Cysylltwch â’r tîm Polisi

Mae’r tîm Polisi yn cynhyrchu, yn syntheseiddio ac yn cyfathrebu gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar weithredu ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Rydym yn defnyddio hyn i eirioli dros lunio polisïau sy’n diogelu ac yn hyrwyddo iechyd a lles pawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym hefyd yn darparu cymorth ac arbenigedd hanfodol i gydweithwyr ar draws y gyfarwyddiaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eirioli dros bolisi, meddwl hirdymor, ac ymateb i ymgynghoriadau polisi.

Ein gwaith

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a chyda tystiolaeth er mwyn gwella ein dealltwriaeth o faterion polisi iechyd cyhoeddus ac i ddylanwadu arnyn nhw. Rydym hefyd yn gwella sgiliau cydweithwyr ledled Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn eu galluogi i eirioli dros bolisi drwy eu hannog i ymgysylltu ag ymgynghoriadau polisi a thrwy ddarparu hyfforddiant i ymgorffori arfer gorau. Mae’r meysydd polisi presennol o fewn y tîm yn cynnwys iechyd a thai, yr argyfwng costau byw, tlodi plant, a chyfalaf cymdeithasol. Rydym hefyd yn gweithio i weithredu ac i ymgorffori deddfwriaeth sy’n diogelu ac yn hyrwyddo iechyd a llesiant pawb yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol. Rydym ni’n arbenigo mewn galluogi cyrff cyhoeddus i ymgorffori’r ffordd hirdymor o weithio trwy ddefnyddio dulliau blaengar. Rydym yn cyflawni’r rhain ar hyn o bryd mewn partneriaeth â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yr hyn rydym wedi’i wneud

Trwy ganolbwyntio ar y cyd-destun polisi yng Nghymru, mae’r tîm Polisi wedi arwain ar ystod o brosiectau amserol, gan gynhyrchu tystiolaeth a meddwl newydd ar ystod eang o bynciau sy’n effeithio ar iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru. Mae rhywfaint o’u gwaith diweddar yn cynnwys fframio’r ymateb polisi i’r argyfwng costau byw a thlodi plant drwy lens iechyd cyhoeddus, edrych ar yr hyn y gallai tueddiadau’r dyfodol ei olygu i gyfalaf cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, a defnyddio tystiolaeth i eirioli dros fuddsoddi mewn tai iach a fforddiadwy. Rydym hefyd wedi cefnogi sawl Asesiad Effaith ar Iechyd, gan gynnwys Brexit a chytundebau masnach ryngwladol newydd. Rydym wedi cynhyrchu offer ac adnoddau i helpu cyrff cyhoeddus, gan gynnwys pecyn cymorth ar gyfer defnyddio model dyfodol Three Horizons, ac ar gyfer gwneud y mwyaf o fudd iechyd y cyhoedd o’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol. 

Am ragor o wybodaeth am waith y tîm Polisi, anfonwch e-bost at [email protected] yn Gymraeg neu Saesneg.