Cysylltwch â’r tîm Iechyd Rhyngwladol

Mae’r Tîm Iechyd Rhyngwladol yn cysylltu Cymru â’r byd. Ni yw’r canolbwynt ar gyfer rhwydweithio, cydweithio a chyfnewid gwybodaeth mewn partneriaeth ar iechyd ryngwladol. Rydym yn dod â dealltwriaeth byd-eang i Gymru er budd ein pobl a’n cymunedau, eu hiechyd a’u llesiant, ac yn rhannu arbenigedd Cymru ledled Ewrop a thu hwnt. Gyda’n gilydd, rydym yn cryfhau effaith iechyd byd-eang Cymru wrth gyfrannu at ddiogelwch iechyd a datblygiad cynaliadwy yng Nghymru a ledled y byd. 

Mae ein gwaith yn cryfhau gwaith Cymru ym maes iechyd y cyhoedd drwy: 

  • Droi polisi, ymarfer a gwaith ymchwil rhyngwladol yn ddysgu cymwys ar gyfer creu gwelliannau
  • Cefnogi datblygiad pobl a sefydliadau sy’n gyfrifol yn fyd-eang ar draws y GIG 
  • Hwyluso a meithrin partneriaethau rhyngwladol, cynhyrchu incwm a buddsoddiad 
  • Arddangos arfer gorau Cymru a chynyddu ei gwelededd a’i heffaith ledled y byd

Fel rhan o Polisi a Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, rydym yn gweithredu fel cyfrwng rhwng Cymru, siroedd eraill a phartneriaid byd-eang, gan rannu tystiolaeth, arbenigedd ac arfer gorau i ddiogelu, gwella a hyrwyddo iechyd ynghyd â’n partneriaid. Iechyd

Sut rydym yn cael effaith

  • Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2023–2035 – sbarduno effaith hirdymor trwy fforymau, cylchlythyrau a rhannu dysg. 
  • Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol – casglu gwybodaeth a dysgu gan wledydd eraill i lywio polisi ac ymarfer iechyd yng Nghymru.  
  • Canolfan Cydlynu Iechyd Ryngwladol (IHCC) – uno’r holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i dyfu partneriaethau iechyd rhyngwladol mewn ffordd gynaliadwy a theg. 
  • Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) a Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru – defnyddio fframwaith arloesol Sefydliad Iechyd y Byd i droi Cymru’n genedl flaenllaw ar gyfer atebion ac arloesedd tegwch iechyd. 
  • Cefnogi’r mudiad Economi Llesiant Byd-eang – hysbysu a chefnogi Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd i weithredu ein Heconomi Llesiant yng Nghymru a thu hwnt.

Cyflawniad sylweddol yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru a Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, sy’n hyrwyddo cydweithio ar gydraddoldeb iechyd, cynaliadwyedd a llesiant. 

Mae sawl ffordd o gysylltu â’r Tîm Iechyd Rhyngwladol. Rydym ar X @IHCCwales, neu ysgrifennwch at y cyfeiriad hwn:

Tîm Iechyd Rhyngwladol, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol a’r Ganolfan Cydlynu Iechyd Rhyngwladol (IHCC)

Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Rhif 2 Capital Quarter,
Stryd Tyndall,
Caerdydd
CF10 4BZ

Ffôn:+44 02920 227744
Ebost: [email protected]

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg yn ddi-oed.