Cysylltu â’r Uned Gwyddor Ymddygiadol
Yr Uned Gwyddor Ymddygiadol: galluogi’r defnydd o wyddor ymddygiadol er gwell iechyd a llesiant.
Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiadol (BSU) yn darparu arbenigedd ar wyddor ymddygiadol ac yn hyrwyddo’r defnydd ohono o fewn gweithdrefnau arferol i wella iechyd a llesiant yng Nghymru.
Mae’r Uned yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac i weithwyr proffesiynol sy’n cynllunio, yn datblygu ac yn darparu gweithgareddau sy’n ceisio gwella iechyd a llesiant pobl Cymru. Gall yr Uned eu helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol wrth eu gwaith i wella’r effaith y maen nhw’n ei gael ac i sicrhau’r canlyniadau gorau. Mae’r cymorth hwn ar gael i unrhyw un sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant a thegwch iechyd yng Nghymru, boed y ‘gwaith’ hwnnw’n ymwneud â gwasanaethau, polisi, gwella ansawdd, cyfathrebu, gweithio mewn bartneriaethau neu weithio systemau.
Gweledigaeth a chenhadaeth yr Uned Gwyddor Ymddygiadol
Sefydlwyd yr Uned Gwyddor Ymddygiadol yn 2022, ac mae ganddo weledigaeth gyffredin o weld “gweithgarwch ledled system iechyd cyhoeddus Cymru i ddarparu gwell iechyd a lleihau anghydraddoldeb iechyd, wedi’i optimeiddio trwy’r defnydd systematig o wyddorau ymddygiadol wrth ei ddatblygu, ei weithredu a’i werthuso”.
Cenhadaeth yr Uned yw sichrau’r galluogi’r defnydd arferol o wyddor ymddygiadol ar gyfer gwell iechyd o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i’w rhanddeiliaid.
Mae’r Uned wedi datblygu cynllun galluogi sy’n mapio llwybr i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol i gefnogi cyflawniad Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, er mwyn i fwy o bobl fyw bywydau hirach ac iachach, a er mwyn i bob person gael mynediad teg a chyfartal i’r pethau sy’n arwain at iechyd a llesiant da. Gallwch weld fersiwn drafft o’r cynllun galluog llawn a fydd yn i helpu i gyflawni hyn.
Gwybodaeth am y tîm
Mae gan dîm yr Uned gymysgedd cryf o gymwysterau, gwybodaeth arbenigol a sgiliau proffesiynol o bob maes o wyddor ymddygiadol, gan gynnwys: seicoleg, cymdeithaseg, iechyd y cyhoedd, ymgynghori, hyfforddiant ac addysg broffesiynol, gwaith ymchwil a gwerthuso a rheoli prosiectau. Mae’r uned yn aml yn cydweithio ag ystod o gydweithwyr gwyddor ymddygiadol academaidd ac unedau gwyddor ymddygiadol eraill wrth ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso eu gwaith gyda phartneriaid.
Yn ogystal â sgiliau arbenigol a gwybodaeth y tîm, mae gwerthusiad annibynnol o waith yr Uned wedi dangos bod eu partneriaid wir yn gwerthfawrogi eu hygyrchedd a’u hyblygrwydd, eu parodrwydd i ddod i gwrdd â phartneriaid ble bynnag y maen nhw, a’r perthnasoedd cynhyrchiol a ddatblygwyd yn ystod eu gwaith gyda’i gilydd. Mae’r gwerthusiad, ac asesiadau eraill, wedi dangos bod gweithio gyda’r Uned wedi galluogi pobl i gynnwys gwyddor ymddygiadol yn eu gwaith mewn ffordd ystyrlon.
Sut all yr Uned Gwyddor Ymddygiadol eich cefnogi chi?
Mae’r Uned yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Leol, i helpu i gynnwys gwyddor ymddygiadol o fewn polisïau, strategaethau, datblygiad a gwelliannau i wasanaethau, cyfathrebu a gwaith systemau.
Mae’r Uned yn gweithio gyda phartneriaid ar draws yr ystod o bynciau iechyd a lles, ac yn enwedig y chwe blaenoriaeth strategol sydd yn Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r Uned yn darparu cymorth pwrpasol ac ymatebol sydd wedi’i deilwra i bartneriaid, gan roi sylw i’w blaenoriaethau pennaf. Mae dadansoddiadau wedi dangos bod y rhaglenni gwaith y maen nhw’n eu cyflwyno yn helpu partneriaid i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol yn eu gwaith. Dyma rai o’r gwasanaethau y mae’r Uned yn eu darparu:
- Ymgynghoriad arbenigol ac amserol, ac adborth ar ymyriadau partneriaid
- Capasiti arbenigol uniongyrchol – cymhwyso gwyddoniaeth ymddygiadol ar ran partneriaid
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu (pwrpasol ac wedi’u cynllunio, mewn amrywiaeth o fformatau)
- Datblygu a gwella ymyriadau cyfathrebu gyda phartneriaid
- Ymgorffori gwyddor ymddygiadol o fewn datblygiad polisi a strategaeth
- Cynhyrchu canllawiau ac offer i helpu partneriaid i ddefnyddio gwyddoniaeth ymddygiadol
- Cefnogaeth i gomisiynu gwasanaethau gwyddor ymddygiad
- Diffinio problemau ymddygiadol a chynhyrchu datrysiadau pwrpasol
- Gwella dulliau gweithio trwy systemau
- Optimeiddio dulliau gwella gwasanaethau ac ansawdd
- Cyfrannu at waith ymchwil ar wyddor ymddygiadol a chydweithrediad academaidd
- Galluogi cysylltiad a chydweithrediad rhwng ymchwilwyr gwyddor ymddygiad a’r rhai sy’n arwain ac yn cyflwyno ymyriadau iechyd a lles
- Cefnogi gwerthusiadau ac ymgymryd â gwerthusiadau ymyriadau newid ymddygiad
Rhoi cymorth uniongyrchol ar gais
Mae’r Uned yn rhoi cymorth amserol i geisiadau gan benderfynwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal er mwyn cefnogi’r defnydd o wyddor ymddygiadol yn eu hymarfer fel rhan o’u hymdrechion i wella iechyd a llesiant i bobl Cymru.
Mae’r Uned wedi darparu’r gwasanaeth ymatebol hwn i staff sy’n cynllunio, yn datblygu neu’n darparu gwasanaethau, polisi, gwelliannau ansawdd, cyfathrebu a gweithgareddau gweithio trwy systemau.
Mae’r gallu arbenigol a gynigir yn cynnwys: ymgynghoriadau arbenigol, cyngor ac arweiniad, trafod problemau a datrysiadau o faes gwyddor ymddygiadol, hyfforddiant a datblygiad wedi’i deilwra, a gwasanaethau gwyddor ymddygiadol uniongyrchol, e.e. casglu mewnwelediadau, argymhellion ynghylch ymyraethau, cynnwys sy’n seiliedig ar ymddygiad, adborth ar gynhyrchion neu fewnbwn ar gomisiynu.
Un o egwyddorion allweddol yr Uned ymatebol hon yw “cwrdd â’r cleient ble bynnag y maent”, nod yr Uned yw bodloni anghenion partneriaid trwy gydbwyso trylwyredd gwyddor ymddygiadol gyda chymesuredd a phragmatiaeth, ynghyd â’r amser a’r adnoddau sydd ar gael i bartneriaid.
I wneud cais am gymorth gwyddor ymddygiad, cwblhewch y ffurflen isod neu e-bostiwch [email protected].
Defnyddio gwyddor ymddygiadol i wella sut rydych chi’n cyfathrebu
Bob blwyddyn, mae’r GIG a llywodraeth leol yn anfon miliynau o lythyrau, negeseuon testun ac e-byst at gleifion a’r cyhoedd er mwyn ceisio eu hannog i ddefnyddio eu gwasanaethau ar gyfer gwell iechyd a llesiant. Maent yn gosod miloedd o bosteri, yn dosbarthu gwybodaeth ac yn datblygu ymgyrchoedd aml-gyfrwng gyda’r nod o ddylanwadu ar ymddygiad pobl, ac mae tystiolaeth gref y gall defnyddio gwyddor ymddygiad wneud y gwaith hwn yn fwy effeithiol.
Mae’r Uned yn rhedeg Menter Cyfathrebu Ymddygiadol (BICI), rhaglen sydd wedi’i chynllunio i wella cyfathrebu uniongyrchol – e.e. llythyrau, testun, e-byst – trwy integreiddio gwyddor ymddygiadol.
Mae BICI yn cynnig cyfuniad o gefnogaeth uniongyrchol gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad, gweithdai dan arweiniad, a gweithgareddau hunangyfeiriedig i helpu timau i gyfathrebu’n fwy effeithiol ac i ddatblygu eu sgiliau gwyddor ymddygiad eu hunain, er mwyn iddyn nhw allu gwneud hyn eu hunain yn y dyfodol.
Gallwch gofrestru nawr i fod yn rhan o’r rhaglen BICI nesaf i wella eich ‘cyfathrebiadau’ ar gyfer newid ymddygiad.
Defnyddio offer a chanllawiau’r Uned Gwyddor Ymddygiadol
Mae’r cyhoeddiadau’r Uned yn cynnwys offer ymarferol a chanllawiau i’ch helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol ar bob cam o’ch gwaith. Mae yna hefyd adroddiadau a ffeithluniau ar waith yr Uned, ac ar yr holl wahanol bynciau lle gallai gwyddor ymddygiadol gael ei ddefnyddio. Edrychwch ar gyhoeddiadau’r uned i gael rhagor o syniadau a chefnogaeth i’ch helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol wrth eich gwaith.
Hyfforddi, dysgu a datblygu i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol
Mae’r Uned yn cynnig ystod o hyfforddiant a datblygiad i’ch helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol mewn ffordd ymarferol. Gallwch gysylltu â’r uned i drafod a threfnu hyfforddiant a datblygiad wedi’i deilwra ar gyfer anghenion eich tîm. Llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon i ddisgrifio eich anghenion a bydd un o’r tîm yn cysylltu. Neu, os yw’n well gennych, gallwch gysylltu â’r uned trwy e-bost: [email protected].
Gallwch fynegi diddordeb yn y Rhaglen Asiantau Newid Ymddygiad (BCA). Dyma raglen rad ac am ddim sydd wedi’i chynllunio i alluogi gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio gwyddor ymddygiadol wrth eu gwaith ac i gefnogi eraill i wneud yr un fath yn eu timau a’u gwasanaethau. Mae’r dysgu’n defnyddio modelau a dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn addysg broffesiynol a gwyddor ymddygiad. Cafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr allanol a’i gynhyrchu ar y cyd â chydweithwyr yma yng Nghymru. Dyma raglen ddysgu a datblygu aml-foddol sy’n integreiddio sesiynau e-ddysgu, wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan dynnu ar ddulliau Dysgu Seiliedig ar Dimau a Dysgu Gweithredu. Mae wedi’i gynllunio i daro’r cydbwysedd rhwng cael elfennau dysgu o safon sy’n darparu gwerth a’r angen i weithio o gwmpas amserlenni proffesiynol prysur. I fynegi diddordeb mewn ymuno â charfan nesaf y Rhaglen , cysylltwch â [email protected].
Mae’r Uned yn datblygu rhaglenni dysgu eraill hefyd, gan gynnwys modiwl e-ddysgu sy’n rhoi cyflwyniad i wyddor ymddygiadol i staff ar draws y system, a rhaglenni ar gyfer arweinwyr ac ar gyfer timau cyfan. Gwyliwch y gofod hwn am fwy o wybodaeth am hynny.
Sut i weithio gyda’r Uned Gwyddor Ymddygiadol
Os ydych chi’n gwybod beth yw eich anghenion chi, neu dim ond yn awydd gweld sut allai’r Uned eich helpu chi, cwblhewch y ffurflen isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu. Neu, os yw’n well gennych, gallwch gysylltu â’r uned trwy e-bostio: [email protected].