Cysylltu â’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd

Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi gweithredu er mwyn sicrhau planed iach, i ddiogelu ein poblogaeth nawr ac yn y dyfodol.

Mae iechyd pobl a’r blaned yn gysylltiedig.

Mae llawer o gamau gweithredu sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd, megis ynni glân a theithio gwyrddach, hefyd yn cefnogi bywydau hirach ac iachach.

Mae angen i ni ddiogelu pobl a chymunedau rhag risgiau iechyd newid hinsawdd a niwed amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys aer a dŵr glân, mynediad at fwyd iach, a gwasanaethau iechyd sy’n gallu gwrthsefyll tywydd eithafol a chlefydau.

Beth rydym yn ei wneud

Ein nod yw mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus yr argyfyngau hinsawdd a natur drwy fonitro effeithiau a chymryd camau i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant.

Mae ein hymrwymiad i feddwl hirdymor ac ataliol yn ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn heddiw wrth ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol.

Meysydd gwaith allweddol

  • Cydlynu ein gwaith ar newid hinsawdd a grymuso staff i ddyfnhau eu dealltwriaeth a chwarae rhan weithredol wrth fynd i’r afael â heriau hinsawdd.
  • Cefnogi gweithredu sy’n ymgorffori’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio ar draws ein sefydliad, gan gyfrannu at y nodau llesiant.
  • Grymuso timau i fabwysiadu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio, o leihau gwastraff a chefnogi teithio llesol i hyrwyddo mynediad at natur drwy ein canllawiau a’n rhaglenni.
  • Adeiladu partneriaethau cryf gyda sefydliadau a rhanddeiliaid eraill i ysgogi gweithredu ar y cyd a chreu dyfodol iachach a mwy cynaliadwy i Gymru.

Gweithio gyda ni

Mae gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn creu bywydau iachach a chymunedau cryfach. Drwy gydweithio, gallwn wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn a chreu dyfodol mwy cynaliadwy.

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith neu drafod gweithio mewn partneriaeth, cysylltwch drwy e-bostio [email protected].

Defnyddio ein hadnoddau a’n canllawiau

Rydym yn cynnig ystod o adnoddau sydd wedi’u cynllunio i rymuso unigolion a thimau i fabwysiadu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.

O gaffael cynaliadwy a theithio llesol i leihau gwastraff a chefnogi bioamrywiaeth, mae ein hadnoddau’n cwmpasu pob agwedd ar gynaliadwyedd i ysbrydoli gweithredu cadarnhaol a newid parhaol.

Gallwch gael mynediad at adnoddau sydd wedi’u hanelu at eich cefnogi i ymgorffori ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.