Neidio i'r cynnwys

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 28 Medi 2023

Gwybodaeth am y cyfarfod

Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, 28 Medi 2023 am 10yb.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac mae’n Ymddiriedolaeth y GIG. Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhoi cyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu cyflawniadau 2021/22 ar draws ein rolau a’n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau.

Bydd copïau electronig o’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Archwiliedig ar gael ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o’i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau’r cyhoedd ei mynychu a’i harsylwi fel rheol.  Fodd bynnag, yng ngoleuni’r cyngor a’r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) penderfynom ym mis Mawrth 2020 er lles gorau diogelu’r cyhoedd a cytunodd ein staff ac aelodau’r Bwrdd na fyddem bellach yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd.  Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd yn rhithwir.

Rydym yn falch o ddweud y byddwn yn ffrydio ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn fyw ar 27 Gorffennaf 2023 i roi’r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad at y rhyngrwyd wylio’r cyfarfod mewn amser real. Mae’r ddolen i’r cyfarfod wedi’i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Fel mynychwyr, byddwch yn gallu gwylio’r cyfarfod drwy Microsoft Teams – bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu declyn symudol. Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Noder nad yw Safari yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Gwylio


Gallwch weld recordiad o gyfarfod 28 Medi 2023 yma. Yn Saesneg yn unig mae’r fideo hwn ar gael.

Recordiad o'r cyfarfod

Yn Saesneg yn unig mae'r fideo hwn ar gael

Cofnodion

Heb ddod o hyd i gofnodion.