Asesiadau Effaith ar Iechyd

At ddibenion gwybodaeth ac enghreifftiol yn unig y caiff Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs) sydd wedi’u cynnwys yng nghronfa ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru eu rhannu.  Nid yw cynnwys Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn golygu ei fod wedi cael sicrwydd ansawdd na’i gymeradwyo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, na’i fod yn bodloni unrhyw safonau, canllawiau neu ofynion statudol penodol, yn cynnwys gofynion Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025.  Ni ddylid dibynnu ar HIAs yn y gronfa ddata fel enghreifftiau pendant nac awdurdodol o’r hyn sy’n cyfrif fel penderfyniad strategol.

Mae’r adroddiadau wedi’u hysgrifennu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau eraill. Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn derbyn dim cyfrifoldeb am y cynnwys, cywirdeb, methodoleg, casgliadau, na chydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion cyfreithiol neu reoleiddiol perthnasol.

Wrth wneud Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, rhaid i sefydliadau ymgynghori â’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol a, lle bo angen, ceisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain neu gyngor proffesiynol arall.