Asesiad o’r effaith ar iechyd cyfranogol cyflym o gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol yng Nghymru
Awduron: Catrin Lyddon, Jen Sharp
Cyhoeddwyd ar: 20fed Ionawr 2026
Tabl cynnwys:
Crynodeb:
Cynhaliwyd yr adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd (AEI) hwn gan Dîm y Prosiect Sgrinio Canser yr Ysgyfaint, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o’r GIG, a gefnogwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), drwy hwyluso gweithdy cyfranogol AEI. Sefydlwyd tîm y prosiect ym mis Ebrill 2024 ac fe gafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Medi 2025. Canolbwyntiodd yr AEI cyfranogol cyflym ar gasglu gwybodaeth a mewnwelediad rhanddeiliaid Cymru i’r cynlluniau arfaethedig i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol o safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth a’r rhai sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cefndir i’r prosiect ac i’r AEI ei hun, cyn edrych ar y gweithdy AEI Cyfranogol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2024 yn fanylach. Mae’n dangos pa grwpiau poblogaeth a nodwyd a’r penderfynyddion iechyd yn unigol, gan ddefnyddio rhestrau gwirio Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd UGAEIC. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai’r Rhaglen Sgrinio Canser yr Ysgyfaint Genedlaethol fod o fudd mawr i boblogaeth Cymru, drwy nodi canserau’r ysgyfaint yn gynnar a thrwy hyrwyddo gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu mewn ffordd integredig. Yn ogystal â hyn, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwaith sy’n rhaid ei gwblhau i sicrhau bod rhaglen sgrinio hygyrch a theg yn cael ei chyflwyno.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Gyflwyno-Rhaglen-Sgrinio-Canser_HIA
PDF, 479KB
Llawrlwytho PDF - Gyflwyno-Rhaglen-Sgrinio-Canser_HIA (479 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Polisïau iechyd trefol awdurdodau lleol Cymru
Ymchwiliad i ystyriaethau iechyd y cyhoedd yng Nghynlluniau Datblygu Lleol 22 awdurdod lleol Cymru.
Cyhoeddwyd ar: 20fed Awst 2025
-
Cynllunio Lleoedd Iach: Canllaw i awdurdodau lleol yng Nghymru i ymgorffori iechyd mewn polisi cynllunio lleol
Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol trefol a gwledig yng Nghymru i ystyried, cynnwys a hyrwyddo iechyd a lles drwy Gynlluniau Datblygu Lleol […]
Cyhoeddwyd ar: 20fed Tachwedd 2025
-
Iechyd ym maes cynllunio: Rôl iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC), yn rhoi adolygiad cryno o’r modd y caiff iechyd ei gynnwys mewn […]
Cyhoeddwyd ar: 30ain Gorffennaf 2025
-
Cyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant y cyhoedd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o’r dulliau a’r canfyddiadau allweddol o adolygiad o sut mae iechyd wedi’i gynnwys mewn astudiaethau achos Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru ac effeithiolrwydd Cynlluniau […]
Cyhoeddwyd ar: 6ed Tachwedd 2025
-
Polisïau iechyd trefol awdurdodau parciau cenedlaethol Cymru
Ymchwiliad i ystyriaethau iechyd y cyhoedd yng Nghynlluniau Datblygu Lleol tair awdurdod parc cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddwyd ar: 20fed Awst 2025
-
Ein cynllun datgarboneiddio a chynaliadwyedd 2024 i 2026
Mae hyn unwaith eto wedi amlygu’r gyd-ddibyniaeth ddofn rhwng llesiant poblogaeth, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Crynodeb gweithredol Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cydnabod […]
Cyhoeddwyd ar: