Y Matrics Aeddfedrwydd Diogelu
Cyhoeddwyd ar: 17eg Gorffennaf 2025
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Nod y Matrics Aeddfedrwydd Diogelu yw rhoi sicrwydd, rhannu ymarfer a sicrhau gwelliannau wrth anelu at gael dull gweithredu cyson ‘Unwaith i Gymru’ ar gyfer diogelu ledled Cymru.
Mae’r Matrics Aeddfedrwydd Diogelu yn cynnwys y pum safon ganlynol y mae gan bob un ohonynt sawl dangosydd enghreifftiol er mwyn cynorthwyo sefydliadau i bennu eu sgôr hunanasesu.
- Llywodraethu a dull seiliedig ar hawliau
- Gofal diogel
- Ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- Diwylliant dysgu
- Gweithio mewn partneriaeth ar sail amlasiantaeth.
Caiff Cynlluniau Gwella a sgorau hunanasesu’r sefydliadau eu cyflwyno i’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) er mwyn creu darlun cenedlaethol trwy Rwydwaith Diogelu GIG Cymru i’r Prif Swyddog Nyrsio yn Llywodraeth Cymru.
Mae proses flynyddol Adolygiad gan Gymheiriaid wedi’i defnyddio i adnabod a rhannu enghreifftiau o arfer da a chydweithio er mwyn gwella.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Y Matrics Aeddfedrwydd Diogelu (Saesneg yn unig)
PDF, 165KB
Llawrlwytho PDF - Y Matrics Aeddfedrwydd Diogelu (Saesneg yn unig) (165 KB)
Llawrlwytho PDF