Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Tegwch mynediad at ailfasgwlareiddio yng Nghymru yn ôl amddifadedd economaidd-gymdeithasol

Manylion:

Awduron: Lloyd Evans

Mae’r cyhoeddiad hwn yn edrych i weld a yw tegwch mynediad at ailfasgwlareiddio wedi gwella yn dilyn ailgynllunio’r gwasanaeth ar gyfer preswylwyr Cymru a dderbynnir i ysbytai oherwydd cnawdnychiant myocardaidd acíwt (AMC) am y tro cyntaf.

Negeseuon allweddol

Mae ailfasgwlareiddio yn cyfeirio at grŵp o driniaethau sy’n adfer llif y gwaed i’r galon gyda’r nod o liniaru effeithiau clefyd coronaidd y galon.

Mae’r cyhoeddiad yn edrych ar effaith mesurau i leihau annhegwch economaidd-gymdeithasol hanesyddol o ran mynediad at ofal iechyd, ac ailfasgwlareiddio yn benodol. Mae’r adroddiad wedi’i rannu â Grŵp Gweithredu Cynllun Cyflawni Clefyd y Galon Cymru Gyfan a’r rhwydweithiau cardiaidd. Gall hefyd fod o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac eraill sydd â diddordeb mewn anghydraddoldebau ym maes iechyd.

Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys tystiolaeth sy’n dangos llwyddiant y mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a welwyd o ran mynediad at ailfasgwlareiddio ledled Cymru i’r rhai a dderbynnir i’r ysbyty ag AMI am y tro cyntaf. Mae’r dadansoddiad hefyd yn dangos bod gwell mynediad i bawb, a gwell prydlondeb, waeth beth fo’r amddifadedd economaidd-gymdeithasol.

Cyhoeddwyd papur ymchwil ar yr astudiaeth hon yn y BMJ Open ym mis Hydref 2016.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Tegwch mynediad at ailfasgwlareiddio yng Nghymru yn ôl amddifadedd economaidd-gymdeithasol - adroddiad manwl (Saesneg yn unig)

PDF, 789KB

Llawrlwytho PDF - Tegwch mynediad at ailfasgwlareiddio yng Nghymru yn ôl amddifadedd economaidd-gymdeithasol - adroddiad manwl (Saesneg yn unig) (789 KB)

Llawrlwytho PDF

Fersiynau eraill:

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig