Strategaeth tegwch sgrinio 2022-2025
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Ein gweledigaeth, ar draws y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru, yw bod gan bawb sy’n gymwys ar gyfer profion sgrinio fynediad a chyfle teg i fanteisio ar ei gynnig sgrinio drwy ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wneud dewis personol ar sail gwybodaeth. Diben y strategaeth hon yw nodi sut y gallwn, drwy gydweithio â’n partneriaid mewn Byrddau Iechyd Lleol; y trydydd sector a phobl Cymru, gyflawni’r uchelgais hwn.
Mae dewis cymryd rhan mewn profion sgrinio ai peidio yn ddewis i’r unigolyn sy’n gyson â’i werthoedd a’i amgylchiadau unigryw. Fodd bynnag, nid yw rhai pobl yn gwneud penderfyniad i wrthod prawf sgrinio, ond ni allant dderbyn eu cynnig oherwydd amrywiaeth o rwystrau cysylltiedig. Gall y rhwystrau hyn gynnwys heriau logistaidd neu gorfforol wedi’u sbarduno gan ffactorau economaidd neu amgylcheddol sy’n lleihau mynediad at leoliadau lle y cynhelir profion sgrinio. Mae’n bosibl nad yw pobl eraill wedi cael gwybodaeth mewn fformatau neu ieithoedd priodol i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth angenrheidiol i wneud dewis ar sail gwybodaeth. Mae’n bosibl nad yw eraill o’r farn bod profion sgrinio ataliol yn rhan o’u norm cymdeithasol neu eu hunaniaeth ddiwylliannol. Gall y rhwystrau hyn fod yn berthnasol yn genedlaethol neu’n lleol a gallant fod yn benodol i raglen neu ymwneud â chymuned neu unigolyn.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Strategaeth Tegwch Sgrinio 2022-2025
Word doc, 399KB
Llawrlwytho Word doc - Strategaeth Tegwch Sgrinio 2022-2025 (399 KB)
Llawrlwytho Word docAdroddiadau perthnasol
-
Adroddiad blynyddol adran sgrinio 2018-19
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r data diweddaraf sydd ar gael am y rhaglenni sgrinio dros flwyddyn ariannol 2018/2019. Mae’r naratif yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r rhaglenni sydd wedi’i diweddaru […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2020
-
Adroddiad blynyddol adran sgrinio 2017-18
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r data diweddaraf sydd ar gael am y rhaglenni sgrinio dros flwyddyn ariannol 2017/2018. Mae’r naratif yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r rhaglenni sydd wedi’i diweddaru […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2019
-
Adroddiad blynyddol adran sgrinio 2016-17
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r data diweddaraf sydd ar gael am y rhaglenni sgrinio dros flwyddyn ariannol 2016/2017. Mae’r naratif yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r rhaglenni sydd wedi’i diweddaru […]
Cyhoeddwyd: 17eg Ionawr 2018
-
Adroddiad annhegwch yr is-adran sgrinio 2020-21
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o’r wybodaeth am annhegwch o ran y niferoedd sy’n manteisio ar brofion sgrinio ar gyfer pedair rhaglen sgrinio i oedolion a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad blynyddol adran sgrinio 2020-21
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r data diweddaraf sydd ar gael am y rhaglenni sgrinio dros flwyddyn ariannol 2020/2021. Mae’r naratif yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r rhaglenni sydd wedi’i diweddaru […]
Cyhoeddwyd: 1af Mehefin 2022