Strategaeth atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) ar gyfer y GIG yng Nghymru
Awduron: Dr Alison Mott, Dr Lorna Price
Cyhoeddwyd ar: 23ain Mawrth 2016
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Diben a chrynodeb o’r ddogfen
Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn bryder iechyd cyhoeddus mawr sy’n golygu bod angen ystyried dull mwy systematig o atal ac ymyrryd ar draws GIG Cymru. Er bod amrywiaeth o ganllawiau amlasiantaethol, cytunodd Rhwydwaith GIG Diogelu Plant Cymru y byddai strategaeth ar gyfer GIG Cymru yn rhoi eglurhad o gyfrifoldebau sefydliadau iechyd. Mae’n gosod nodau ac amcanion strategol ar gyfer y GIG yng Nghymru ar gyfer atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant dros y cyfnod 2016-2019.
Mae cynllun gweithredu i gefnogi cyflwyniad y strategaeth. Mae hwn yn nodi’r camau gweithredu mewn perthynas â’r amcanion, pwy sy’n gyfrifol, amserlenni clir a thystiolaeth o gyflawniad.
Nodau cyffredinol y strategaeth yw:
- Darparu fframwaith ar gyfer ymateb strategol y GIG yng Nghymru i nodi ac i leihau cyfraddau camfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru.
- Sicrhau bod GIG Cymru yn cyfrannu at weithio amlasiantaeth a phartneriaethau effeithiol i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag y math hwn o gam-drin ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
- Sicrhau bod y fframwaith yn cyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i fynd i’r afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (Cymru)
Lawrlwythiadau adroddiadau
Strategaeth atal Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) ar gyfer y GIG yng Nghymru (Saesneg yn unig)
Word doc, 92KB
Llawrlwytho Word doc - Strategaeth atal Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) ar gyfer y GIG yng Nghymru (Saesneg yn unig) (92 KB)
Llawrlwytho Word docAdroddiadau perthnasol
-
Ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i ryfel Rwsia yn y Wcráin – Diogelu a Chaethwasiaeth Fodern
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu cyngor ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern i ddau fersiwn o’i chanllawiau i noddwyr.
Cyhoeddwyd:
-
Fframwaith Asesu Iechyd GIG Cymru ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
Mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu yn broffesiynol gan y Tîm Diogelu Cenedlaethol mewn cydweithrediad â’r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru. Ei nod yw hybu dull cyson o ymdrin â’r broses asesu […]
Cyhoeddwyd: 1af Mehefin 2020
-
Adroddiad dysgu o adolygiadau 2019
Diben cyffredinol y system adolygu yw hybu diwylliant cadarnhaol o ddysgu amlasiantaeth sy’n cynnwys hybu arfer gorau. Mae rheidrwydd ar yr holl asiantaethau sy’n ymwneud â gofalu am blant ac […]
Cyhoeddwyd: 17eg Gorffennaf 2025
-
Y Matrics Aeddfedrwydd Diogelu
Mae’r Matrics Aeddfedrwydd Diogelu yn cynnwys y pum safon ganlynol y mae gan bob un ohonynt sawl dangosydd enghreifftiol er mwyn cynorthwyo sefydliadau i bennu eu sgôr hunanasesu. Caiff Cynlluniau […]
Cyhoeddwyd: 17eg Gorffennaf 2025
-
Adroddiad blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2024 i 2025
Mae’n ymhelaethu ar y targedau heriol a gyflawnwyd yn y cyfnod diwethaf drwy gydweithio ar draws y Rhwydwaith a chyflwyno ffyrdd arloesol o weithio. Mae Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru (y […]
Cyhoeddwyd: 16eg Gorffennaf 2025