Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2021-22

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Hydref 2024

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Penawdau ystadegol

Sgrinio

  • Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio wedi cael ei gynnig i 99.9% o fabanod cymwys (29,487) gyda 99.0% o fabanod cymwys wedi’u profi (29,180) a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio. Cafodd y safonau gwasanaeth eu cyrraedd.
  • Ledled Cymru, cafodd 70.1% o fabanod iach eu sgrinio o fewn saith diwrnod i’w genedigaeth sy’n cyrraedd y safon 70%.
  • Cwblhaodd 91.1% o fabanod iach sgrinio o fewn 28 diwrnod, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.
  • Cwblhaodd 100.0% o fabanod risg uchel y rhaglen sgrinio, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.

Asesu

  • Cafodd 1.5% o’r babanod a sgriniwyd eu hatgyfeirio am asesiad awdioleg, yn unol â safonau gwasanaeth.
  • Cwblhaodd 91.6% o fabanod a atgyfeiriwyd am asesiad awdioleg y broses asesu o fewn tri mis, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.
  • Cafodd yr amser a gymerwyd i ddechrau’r broses asesu ar gyfer babanod iach ei effeithio gan bresenoldeb mewn apwyntiadau a gynlluniwyd, gyda 96.3% o fabanod iach yn cael cynnig a chyrraedd y safon, ond dim ond 84.7% yn mynd i’w hapwyntiad (o fewn 28 diwrnod i’r prawf sgrinio terfynol).
  • Roedd yr amser a gymerwyd i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrannwyd ar gyfer 99.4% o fabanod risg uchel (o fewn 56 diwrnod i’r prawf sgrinio terfynol), gan gyrraedd y safonau gwasanaeth.
  • Aethpwyd i 73.5% o apwyntiadau asesu.
  • Ni chafodd 3.6% o fabanod a atgyfeiriwyd i gael eu hasesu eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad.

Canlyniadau

  • Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, roedd nifer yr achosion o golled clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn y ddwy glust oedd 1.0 fesul 1,000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn ychydig yn llai na nifer yr achosion a gofnodwyd ers dechrau’r rhaglen, sef 1.2 fesul 1,000.
  • Yr oedran cymedrig cadarnhau colled clyw oedd 9.9 wythnos.
  • Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 16.5 wythnos.
  • Derbyniodd 81.5% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colled clyw.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2021-22

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2021-22 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig