Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2020-21

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Awst 2024

Dyma’r ail adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW), ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

Penawdau ystadegol

Sgrinio

  • Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio wedi cael ei gynnig i 93.2% o fabanod cymwys (26,306) gyda 92.2% o fabanod cymwys wedi’u profi (26,093) a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio. Ni chafodd y safonau gwasanaeth eu cyrraedd.
  • Ledled Cymru, cafodd 75.9% o fabanod iach eu sgrinio o fewn saith diwrnod i’w genedigaeth sy’n cyrraedd y safon 70%.
  • Cwblhaodd 93.8% o fabanod iach sgrinio o fewn pedair wythnos, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.
  • Cwblhaodd 99.9% o fabanod risg uchel y rhaglen sgrinio, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.

Asesu

  • Cafodd 1.6% o’r babanod a sgriniwyd eu hatgyfeirio am asesiad awdioleg, yn unol â safonau gwasanaeth.
  • Cwblhaodd 94.5% o fabanod a atgyfeiriwyd am asesiad awdioleg y broses asesu o fewn tri mis, gan gyrraedd y safon gwasanaeth.
  • Roedd yr amser a gymerwyd i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrannwyd ar gyfer 95.3% o fabanod iach (o fewn pedair wythnos i’r prawf sgrinio terfynol) a 99.5% o fabanod risg uchel (o fewn wyth wythnos i’r prawf sgrinio terfynol), gyda’r ddau’n cyrraedd y safonau gwasanaeth.
  • Roedd 97.2% o’r babanod a gafodd eu hatgyfeirio wedi mynd i gael asesiad, gan gyrraedd y safonau gwasanaeth.
  • Aethpwyd i 78.5% o apwyntiadau asesu.
  • Ni chafodd 2.8% o fabanod a atgyfeiriwyd i gael eu hasesu eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad.

Canlyniadau

  • Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, roedd nifer yr achosion o golli clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn y ddwy glust oedd 1.5 fesul 1,000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn ychydig yn uwch na nifer yr achosion a gofnodwyd ers dechrau’r rhaglen, sef 1.2 fesul 1,000.
  • Yr oedran cymedrig cadarnhau colli clyw oedd 8.2 wythnos.
  • Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 11.5 wythnos.
  • Derbyniodd 96.0% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colli clyw.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2020-21

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2020-21 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig