Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2019-20

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Hydref 2022

Dyma’r unfed adroddiad ystadegol blynyddol ar bymtheg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.

Penawdau ystadegol

Sgrinio

Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos:

  • Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio yn cael ei gynnig i 98.7% o fabanod cymwys (29,767), gyda 97.4% (28,982) wedi’u profi a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio.
  • Ledled Cymru, mae 75.2% o fabanod iach yn cael eu sgrinio o fewn saith diwrnod i’w genedigaeth – sy’n cyrraedd y safon 70%.
  • 97.8% o fabanod iach yn cwblhau sgrinio o fewn pedair wythnos.
  • 100.0% o’r holl fabanod risg uchel yn cwblhau’r rhaglen sgrinio.

Asesu

  • Mae 1.2% o’r babanod sy’n cael eu sgrinio yn cael eu hatgyfeirio i gael asesiad.
  • Mae 89.3% o fabanod sy’n cael eu hatgyfeirio am asesiad yn cwblhau’r broses asesu o fewn tri mis.
  • Mae’r amser a gymerir i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrennir ar gyfer 96.2% o fabanod iach (o fewn pedair wythnos i’r prawf sgrinio terfynol) a 98.8% o fabanod risg uchel (o fewn wyth wythnos i’r prawf sgrinio terfynol).
  • Mae 91.0% o’r babanod a gafodd eu hatgyfeirio wedi mynd i gael asesiad.
  • Aethpwyd i 72.7% o apwyntiadau asesu.
  • Ni chafodd 9.0% o fabanod a atgyfeiriwyd i gael eu hasesu eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad.

Canlyniadau

  • Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020, roedd nifer yr achosion o golli clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn y ddwy glust oedd 1.1 fesul 1,000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn ychydig yn is na nifer yr achosion a gofnodwyd ers dechrau’r rhaglen, sef 1.5 fesul 1,000.
  • Yr oedran cymedrig cadarnhau colli clyw oedd 11.2 wythnos.
  • Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 16.1 wythnos.
  • Derbyniodd 80.0% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colli clyw.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2019-20

PDF, 739KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2019-20 (739 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig