Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2018-19

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 26ain Mawrth 2020

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Dyma’r pymthegfed adroddiad ystadegol blynyddol i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.

Penawdau ystadegol

Sgrinio

  • Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio yn cael ei gynnig i 99.9% o fabanod cymwys (31,129), gyda 99.5% wedi’u profi (30,959), a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio.
  • Ledled Cymru, mae 74.1% o fabanod iach yn cael eu sgrinio o fewn saith diwrnod i’w genedigaeth, sy’n cyrraedd y safon o 70%.
  • 98.6% o fabanod iach yn cwblhau sgrinio o fewn pedair wythnos.
  • 100.0% o’r holl fabanod risg uchel yn cwblhau’r rhaglen sgrinio.

Asesu

  • Mae 1.2% o’r babanod sy’n cael eu sgrinio yn cael eu hatgyfeirio am asesiad.
  • Mae 93.6% o’r babanod sy’n cael eu hatgyfeirio am asesiad yn cwblhau’r broses asesu o fewn tri mis.
  • Mae’r amser a gymerir i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrennir ar gyfer 98.0% o fabanod iach (o fewn pedair wythnos i’r prawf sgrinio terfynol) a 98.8% o fabanod risg uchel (o fewn wyth wythnos i’r prawf sgrinio terfynol)
  • Mae 96.5% o’r babanod a gafodd eu hatgyfeirio wedi mynd i gael asesiad.
  • Aethpwyd i 75.8% o apwyntiadau asesu.
  • Ni chafodd 3.5% o fabanod a atgyfeiriwyd i am asesiad eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad.

Canlyniadau

  • Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019, roedd nifer yr achosion o golli clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn y ddwy glust yn 1.5 fesul 1,000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn yn gyson â nifer yr achosion ers dechrau’r rhaglen.
  • Yr oedran cymedrig cadarnhau colli clyw oedd 7.4 wythnos.
  • Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 11.4 wythnos.
  • Derbyniodd 90.9% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colli clyw.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2018-19

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2018-19 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig