Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Sgrinio clyw babanod adroddiad ystadegol blynyddol 2017-18

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 26ain Mawrth 2020

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Dyma’r pedwerydd adroddiad ystadegol blynyddol ar ddeg i’w gyhoeddi gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu data ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018.

Caiff un neu ddau o fabanod o bob 1000 eu geni â nam ar y clyw a all effeithio ar ddatblygiad eu lleferydd ac iaith. Lansiwyd NBHSW yn 2003 ac mae’n ceisio nodi’r babanod hyn mor gynnar â phosibl, oherwydd bod tystiolaeth yn dangos bod cyflwyno rhaglen gymorth gynnar cyn chwe mis oed yn arwain at well canlyniadau o ran datblygiad lleferydd ac iaith.

Penawdau ystadegol

  • Mae’r cyfraddau cwmpasu yn dangos bod sgrinio yn cael ei gynnig i 100.0%* o fabanod cymwys gyda 99.4% wedi’u profi, a phrin iawn oedd y rhieni a wrthododd y sgrinio 
  • Ledled Cymru, mae 74.5% o fabanod iach yn cael eu sgrinio o fewn diwrnod i’w genedigaeth
  • Mae 100.0% o fabanod risg uchel yn cwblhau’r rhaglen sgrinio a 98.3% o fabanod iach yn cwblhau sgrinio o fewn pedair wythnos 
  • Mae 1.3% o’r babanod sy’n cael eu sgrinio yn cael eu hatgyfeirio i gael asesiad
  • Mae 90.5% o fabanod sy’n cael eu hatgyfeirio am asesiad yn cwblhau’r broses asesu o fewn tri mis
  • Mae’r amser a gymerir i ddechrau’r broses asesu o fewn yr amser a ddyrennir ar gyfer 97.2% o fabanod iach (o fewn pedair wythnos i’r prawf sgrinio terfynol) a 98.4% o fabanod risg uchel (o fewn wyth wythnos i’r prawf sgrinio terfynol)
  • Mae 95.0% o’r babanod a gafodd eu hatgyfeirio wedi mynd i gael asesiad

Ebrill 2017 – Mawrth 2018

  • Nifer y genedigaethau ledled Cymru oedd 33,276
  • Nifer y babanod a oedd yn gymwys ac yn addas i gael eu sgrinio oedd 32,450
  • Nifer y babanod y gwnaeth eu rhieni gydsynio i sgrinio ac a gafodd eu profi oedd 32,257
  • Aethpwyd i 73.4% o apwyntiadau asesu
  • Ni chafodd 5.0% o fabanod a atgyfeiriwyd i gael eu hasesu eu gweld yn sgil peidio â mynd i’r apwyntiad
  • Mewn babanod a anwyd rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018, roedd nifer yr achosion o golli clyw parhaol a ddiagnoswyd sy’n fwy na 40 dBHL yn 1.1 fesul 1000 o’r babanod hynny a sgriniwyd. Mae hyn yn gyson â nifer yr achosion ers dechrau’r rhaglen
  • Yr oedran cymedrig cadarnhau colli clyw oedd 8.2 wythnos
  • Yr oedran cymedrig gosod cymorth clyw oedd 14.7 wythnos
  • Derbyniodd 91.4% o fabanod gymhorthion clyw o fewn pedair wythnos i gadarnhau colli clyw
  • Ers cyflwyno sgrinio clyw babanod yn gyffredinol yn 2003, nifer yr achosion o golli clyw dwyochrog sylweddol parhaol (a ddiffinnir fel colli clyw sy’n uwch na 40 dBHL) mewn plant o dan bump oed yw 1.5 fesul 1000

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2017-18

Word doc, 2MB

Llawrlwytho Word doc - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Clyw Babanod Cymru 2017-18 (2 MB)

Llawrlwytho Word doc

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig