SACU: Treialon ac astudiaethau clinigol
Cyhoeddwyd ar: 26ain Chwefror 2021
Mae SACU yn rhan o nifer o dreialon ac astudiaethau clinigol, gan gynnwys â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Southampton, Uned Treialon De-ddwyrain Cymru a King’s College, Llundain.
Rhestrir y treialon ac astudiaethau clinigol y mae SACU yn rhan ohonynt isod:
Diagnosio Heintiau Llwybr Wrinol yn yr Ifanc (DUTY)
Astudiaeth ledled y DU (Saesneg yn unig) i adnabod plant cyn oed ysgol y dylid cael sampl wrin ganddynt; asesu a yw stribedi trochi urinalysis yn cynnig gwybodaeth ddiagnostig ychwanegol; a modelu cost-effeithiolrwydd yr algorithmau.
Gwnaeth SACU y gwaith labordy canolog, gan brosesu >6000 o samplau wrin yn defnyddio protocol ymchwil arbenigol. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod dadansoddi data ar hyn o bryd, ac mae nifer o lawysgrifau wedi’u cyhoeddi neu ar y gweill.
Probiotegau i drin dolur rhydd sy’n gysylltiedig â gwrthfiotigau (PAAD)
Astudiaeth ledled Cymru i bennu llinell sylfaen o ddigwyddedd organebau C. difficile sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau mewn cartrefi gofal; asesu probiotegau ar bresgripsiynau gwrthficrobaidd.
Gwnaeth SACU y gwaith labordy canolog, gan ganfod digwydded organebau C. difficile sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod dadansoddi data ar hyn o bryd, ac mae nifer o lawysgrifau wedi’u cyhoeddi neu ar y gweill.
Heintiau Llif Gwaed – Canolbwyntio ar Ganlyniad (BSIFOO)
Astudiaeth ledled y DU sy’n asesu effaith diagnosteg gyflym yn y labordy microbioleg ar ganlyniad cleifion â heintiau llif gwaed (Saesneg yn unig).
Roedd SACU yn un o’r chwe labordy a gymrodd ran, gan nodi organebau yn uniongyrchol o feithriniadau gwaed cadarnhaol gan ddefnyddio’r offeryn MALDI-ToF MS.
Arolwg Cario Bacteria Meningococol (MenCar4)
Astudiaeth ledled y DU sy’n pennu pa mor gyffredin yw N. meningitidis ymhlith pobl ifanc (Saesneg yn unig).
Cymerodd SACU ran yn yr astudiaeth, gan ganfod N. meningitidis mewn >3000 o swabiau gwddf. Mae’r astudiaeth ar hyn o bryd yn y cyfnod dadansoddi data.
Ymwrthedd mewn Organebau Gram Negyddol – Astudio Strategaethau Ymyrraeth (R-GNOSIS)
Mae R-GNOSIS yn gydweithrediad mawr ledled Ewrop sy’n canolbwyntio ar organebau Gram negyddol sy’n gwrthsefyll mwy nag un cyffur. Mae wedi’i rannu’n wahanol becynnau gwaith (WP):
WP2: Profion Pwynt Gofal ar gyfer Haint y Llwybr Wrinol mewn Gofal Sylfaenol (POETIC)
Gwerthuso prawf pwynt gofal (POCT) i’w ddefnyddio mewn oedolion benywaidd mewn gofal sylfaenol pan amheuir haint y llwybr wrinol heb gymhlethdod. Bydd y POCT yn rhoi diagnosis o haint bacteriol i glinigwyr ar y pwynt gofal, ynghyd â phroffiliau ymwrthedd unrhyw bathogen a nodwyd i’r gwrthfiotigau a ddefnyddir amlaf i drin haint y llwybr wrinol mewn gofal sylfaenol, a hynny o fewn 24 awr. Bydd yr astudiaeth yn penderfynu a yw’r wybodaeth hon yn cynorthwyo clinigwyr i ragnodi gwrthficrobau yn fwy priodol.
Gwnaeth SACU y gwaith labordy canolog ar gyfer y labordai GIG y DU a oedd yn cymryd rhan, gan brosesu ~1000 o samplau wrin ac ysgarthion; adnabod a phrofi sensitifrwydd bacteria pathogenig. Cynhaliwyd dadansoddiadau o’r prawf pwynt gofal o’i gymharu â meddygon teulu hefyd. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod dadansoddi data ar hyn o bryd, ac mae rhai papurau wedi’u cyhoeddi.
WP6 Effeithiau Ecolegol Strategaethau Cael Gwared ar Lwyth Bacteriol mewn Gofal Dwys
Gwerthuso strategaethau cael gwared ar lwyth bacteriol o’r perfedd ar gyfer cleifion Gofal Dwys; gan ganolbwyntio ar facteria gram negyddol sydd ag ymwrthedd i fwy nag un cyffur. Nod yr astudiaeth yw cymharu strategaethau cael gwared ar lwyth bacteriol yn y perfedd gan ganolbwyntio ar facteria gram negyddol sydd ag ymwrthedd i fwy nag un cyffur.
Mae SACU yn labordy canolog ar gyfer ITU Caerdydd, gan brosesu samplau ysgarthol ac anadlol ac adnabod organebau sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau. Mae’r astudiaeth yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Astudiaeth PACE
Mae PACE yn astudiaeth dau gam – cynllun peilot wedi’i lleoli yng Nghymru ac astudiaeth fwy ledled y DU.
SACU yw’r labordy canolog ar gyfer yr astudiaeth hon, gan brosesu >750 o samplau swab anadlol a gwddf. Bydd gwaith adnabod bacteria pathogenig a chanfod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael ei wneud. Mae’r astudiaeth yn y cyfnod peilot ar hyn o bryd.
Defnyddio probiotig a fitamin D i leihau heintiau mewn defnyddwyr gwasanaethau cartrefi gofal (PRINCESS)
Defnyddio probiotig a fitamin D i leihau heintiau mewn defnyddwyr gwasanaethau cartrefi gofal (PRINCESS): Nod yr astudiaeth hon ledled y DU yw gwerthuso effaith probiotegau a gymerir trwy’r geg yn ddyddiol mewn preswylwyr cartrefi gofal, naill ai gyda dos uchel o Fitamin D3 (Vit-D) neu ddos rheoli Vit-D, ar nifer cronnol y dyddiau ar bresgripsiwn gwrthfiotig (CAPD) ar gyfer Clefydau Heintus Cyffredin a’r llwyth bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau.
Bydd SACU yn gweithio fel labordy canolog, gan brosesu carthion a phoer, canfod rhywogaethau C. difficile, Candida a gweld pa mor gyffredin yw’r organebau sy’n gwrthsefyll gwrthficrobau. Bydd lefelau’r bacteria probiotig mewn ysgarthion hefyd yn cael eu pennu.
Disgwylir i’r astudiaeth hon ddechrau yn Hydref 2015.
Tabl cynnwys:
- Blood Stream Infection – Focus On Outcome (BSIFOO)
- Arolwg Cario Bacteria Meningococol (MenCar4)
- Ymwrthedd mewn Organebau Gram Negyddol – Astudio Strategaethau Ymyrraeth (R-GNOSIS)
- Astudiaeth PACE
- Defnyddio probiotig a fitamin D i leihau heintiau mewn defnyddwyr gwasanaethau cartrefi gofal (PRINCESS)
- Adroddiadau perthnasol
- Setiau data cysylltiedig
Adroddiadau perthnasol
-
Adroddiad gwyliadwriaeth organebau sy’n cynhyrchu Carbapenemase (CPO) 2023-24
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ardal lle mae nifer yr Organebau sy’n Cynhyrchu Carbapenemase (CPO) yn gymharol isel. Mae sgrinio, canfod CPO a mesurau Atal a Rheoli Heintiau […]
Cyhoeddwyd: 9fed Mehefin 2025
-
Ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn meithriniadau wrin yng Nghymru 2024
Mae rhaglen gwyliadwriaeth HARP yn olrhain tueddiadau ymwrthedd gwrthficrobaidd yma yng Nghymru. Mae’r cyfraddau ymwrthedd a gofnodwyd yn ymwneud â’r microbau mwyaf cyffredin a geir yn y llif gwaed neu’r […]
Cyhoeddwyd: 23ain Ebrill 2025
-
Ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn meithriniadau gwaed yng Nghymru 2024
Mae rhaglen gwyliadwriaeth HARP yn olrhain tueddiadau ymwrthedd gwrthficrobaidd yma yng Nghymru. Mae’r cyfraddau ymwrthedd a gofnodwyd yn ymwneud â’r microbau mwyaf cyffredin a geir yn y llif gwaed neu’r […]
Cyhoeddwyd: 23ain Ebrill 2025
-
Ymwrthedd Cephalosporin 3ydd Genhedlaeth yng Nghymru 2008
Astudiaeth Cymru Gyfan ar dargedu gwyliadwriaeth ar cephalosporin 3ydd genhedlaeth (3GC) Mae ymwrthedd i carbapenem mewn bacteria Gram-negatif yn broblem gynyddol yng Nghymru ac yng ngweddill y byd. Mae’n arwain […]
Cyhoeddwyd: 9fed Medi 2010
-
Ymwrthedd Cephalosporin 3ydd Genhedlaeth yng Nghymru 2014
Astudiaeth Cymru Gyfan ar dargedu gwyliadwriaeth ar cephalosporin 3ydd genhedlaeth (3GC) Mae ymwrthedd i carbapenem mewn bacteria Gram-negatif yn broblem gynyddol yng Nghymru ac yng ngweddill y byd. Mae’n arwain […]
Cyhoeddwyd: 6ed Hydref 2020
-
Gwyliadwriaeth Gofal Critigol: Niwmonia sy’n Gysylltiedig â Pheiriant Anadlu – Adroddiad blynyddol 2018
Mae cleifion gofal critigol yn fwy tebygol o ddatblygu heintiau oherwydd eu bod yn sâl iawn, ac fel arfer maent angen defnyddio dyfeisiau meddygol, fel cyfarpar anadlu / tiwbiau (peiriant […]
Cyhoeddwyd: 15fed Mai 2019