Llosgi a safbwynt iechyd – Mehefin 2025
Cyhoeddwyd ar: 18fed Gorffennaf 2025
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
- DU
Nid yw allyriadau o losgyddion gwastraff trefol (MWI) modern, sy’n cael eu rheoli’n dda ac sy’n cael eu rheoleiddio’n dda yn y DU yn risg sylweddol i iechyd corfforol. Er nad yw’n bosibl diystyru’n llwyr effeithiau andwyol ar iechyd corfforol o gyfleusterau o’r fath, mae unrhyw effeithiau posibl ar y rhai sy’n byw gerllaw yn debygol o fod yn fach iawn.
Mae barn Iechyd Cyhoeddus Cymru – sy’n debyg i farn asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill y DU – yn seiliedig ar asesiadau manwl o effeithiau llygryddion aer ar iechyd corfforol ac ar y ffaith mai dim ond cyfraniad bach iawn y mae’r llosgyddion hyn yn ei wneud at grynodiadau lleol o lygryddion aer.
Rhagor o wybodaeth
Ym mis Mehefin 2025 cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA): Effeithiau iechyd llosgi gwastraff: adolygiad systematig o dystiolaeth epidemioleg yn y DU a’r UE, yn dilyn gweithredu Cyfarwyddeb Llosgi Gwastraff. Mae’r adroddiad “yn darparu adolygiad systematig o’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch effeithiau iechyd posibl llygryddion aer a allyrrir gan losgyddion gwastraff trefol (MWI) ar gymunedau cyfagos. Mae’n adeiladu ar ddatganiad safbwynt yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA) (rhagflaenydd i UKHSA) o 2009 ac yn cefnogi datganiad barn presennol UKHSA, sef nad yw llosgyddion gwastraff trefol modern, sy’n cael eu rhedeg yn dda ac sy’n cael eu rheoleiddio, yn risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. Roedd y dystiolaeth a ystyriwyd yn canolbwyntio ar MWI yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd (UE), gan adrodd ar ganlyniadau iechyd epidemiolegol o ddod i gysylltiad ag allyriadau MWI, o’r broses losgi.”
Gellir categoreiddio pryderon iechyd ynghylch MWI yn fras fel beichiogrwydd a chanlyniadau niweidiol i enedigaeth, canser, a salwch nad yw’n ganser. Ar y cyntaf o’r rhain, cyhoeddwyd tair astudiaeth fawr ar losgi ac iechyd yn y DU yn 2019.
Ni chanfu astudiaethau un a dau unrhyw dystiolaeth o risg uwch o farwolaethau babanod i blant sy’n byw yn agos at MWI. Ni chanfu’r drydedd astudiaeth unrhyw dystiolaeth o risg uwch o anomaleddau cynhenid o ganlyniad i ddod i gysylltiad ag allyriadau MWI, ond awgrymodd gynnydd bach posibl yn y risg o anomaleddau cynhenid i blant a anwyd o fewn deg cilomedr i losgyddion gwastraff trefol. Cydnabu’r awduron y gallai’r canfyddiad hwn fod oherwydd nad oedd yr astudiaeth wedi’i haddasu’n llawn ar gyfer pob ffactor dylanwadol posibl, a allai gynnwys ffynonellau llygredd lleol eraill, yn ogystal â lefelau amddifadedd. Yn bwysig, nid oes cysylltiad achosol rhwng y risg uwch o anomaleddau cynhenid i blant a anwyd yn agos at MWI wedi’i sefydlu.
O ran canser, mae astudiaethau Ewropeaidd nad ydynt yn y DU wedi canfod cysylltiad rhwng MWI hŷn a nifer fach o ganserau (gweler yma, yma ac yma). Fodd bynnag, canfu pob astudiaeth wahanol ganserau, ac mae’r rhan fwyaf o’r cyfnodau a astudiwyd yn dyddio cyn llosgyddion gwastraff modern, llai llygrol, tra nad oedd yr astudiaethau’n gallu ystyried beth arall yr oedd yr unigolion wedi’i dod i gysylltiad ag ef, fel ysmygu. O ystyried y canfyddiadau anghyson a diffyg astudiaethau o MWI sy’n bodloni’r safonau cyfredol, mae tystiolaeth gyfyngedig o ran cysylltiad rhwng MWI a chanser.
Fodd bynnag, nodir nad yw effeithiau iechyd meddwl yn ymddangos fel pe baent yn cael eu trafod yn eang yn y llenyddiaeth, i’r graddau bod Bottini et al (2025) wedi cyfeirio at y ffaith nad oes digon o astudiaethau sy’n ystyried effeithiau iechyd meddwl.
Cydweithio y tu hwnt i Gymru
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill y DU i barhau i adolygu’r safbwynt hwn.
Mae gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ragor o wybodaeth am y pwnc hwn ar eu tudalennau gwe.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban ragor o wybodaeth am y pwnc hwn ar eu tudalennau gwe.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Llosgi a safbwynt iechyd - Mehefin 2025
PDF, 344KB
Llawrlwytho PDF - Llosgi a safbwynt iechyd - Mehefin 2025 (344 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Ymwybyddiaeth o lygredd aer ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru 2025
Mae’r arolwg cenedlaethol hwn o Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol ledled Cymru yn darparu ciplun o:
Cyhoeddwyd: 10fed Mehefin 2025
-
Lleihau’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â llygredd aer o drafnidiaeth ffyrdd yng Nghymru
Crynodeb gweithredol Mae’r bennod hon yn estyniad o gyhoeddiad Gwneud Gwahaniaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn bwriadu i’w defnyddio fel dogfen annibynnol, gan gefnogi gwaith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a […]
Cyhoeddwyd: 29ain Ebrill 2019